A diolch Linda hefyd. :) Meinir --- On Thu, 9/4/09, Linda Griffiths <[log in to unmask]> wrote: From: Linda Griffiths <[log in to unmask]> Subject: Re: Haylage To: [log in to unmask] Date: Thursday, 9 April, 2009, 9:29 AM Gwywair dwi'n credu. Linda ----- Original Message ----- From: Mary Jones To: [log in to unmask] Sent: Thursday, April 09, 2009 9:12 AM Subject: Re: Haylage Rydw i hefyd wedi bod yn disgwyl clywed rhyw awgrym am ‘haylage’. Byddwn yn falch iawn am unrhyw sylwadau. Mary From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas Sent: 08 April 2009 21:19 To: [log in to unmask] Subject: Re: big bales Ni'n gwerthu lot o rhain ar y slot prynu a gwerthu ar fy rhaglen ar Radio Ceredigion. "Byrnau mawr" wi'n defnyddio a "byrnau bach" i small bales. Unrhyw un yn gwbod beth yw "haylage" yn y Gymraeg? Meinir --- On Wed, 8/4/09, Inc Cyfieithu Translations <[log in to unmask]> wrote: From: Inc Cyfieithu Translations <[log in to unmask]> Subject: Re: big bales To: [log in to unmask] Date: Wednesday, 8 April, 2009, 6:20 PM Byrnau mawr sydd fwyaf cyffredin. Dei Tomos boblogeiddiodd y term ar Byd Amaeth ar y radio tua ugain mlynedd yn ol. Wil Ann Corkett wrote: > > ‘Roedd gen i ryw frithgof fy mod i wedi clywed “caseg wair/cesig gwair”, ond dim ond dau achos a gefais ar Google, o’u cymharu a^ nifer fawr o achosion o “byrnau mawr”. > > Yn ol “Cydymaith Byd Amaeth” mae “caseg wair” “ar lafar yn ardal y Parc, y Bala”. > > A yw’r ymadrodd hwn yn ddigon cyffredin imi ei ddefnyddio, ynteu a ddylwn i lynu at “byrnau mawr” ar gyfer gwaith sy’n cyfeirio at fferm yng Ngheredigion? > > Ann > > ------------------------------------------------------------------------ > > > No virus found in this incoming message. > Checked by AVG - www.avg.com Version: 8.0.238 / Virus Database: 270.11.47/2047 - Release Date: 04/08/09 05:53:00 > >