Dw i wedi treulio hanner y pnawn yn meddwl am yr un gair yma! Na, dw i ddim yn hollol siwr be di'r ystyr. Print mân ar waelod ffurflen sydd gen i, yn ymwneud â diogelu data dw i'n cymryd. Dw i'n meddwl y gwna i ofyn i'r cwsmer am gadarnhad, ond dydi 'Mae John yn cadw'r ffurflen â llaw' neu 'Cedwir y ffurflen â llaw gan John' ddim yn swnio'n iawn rhywsut. Diolch Rhian