----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">CATRIN ALUNTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Wednesday, March 04, 2009 3:46 PMSubject: Re: iFind ac IGetItOes unrhyw beth yn bod ar iGanfod ac iGael? Dwi'n gwybod nad yw'r 'i' yn golygu'r un peth â'r 'i' yn Saesneg (eGanfod ac eGael??) - ond mae'n gwneud synnwyr i mi!Catrin
From: Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Wednesday, 4 March, 2009 3:37:06 PM
Subject: Re: iFind ac IGetIt
Awgrymiadau da – ond mae gen i amheuon am ddefnyddio @ yn Gymraeg os nad ‘at’ yw’r gair h.y. mae’n iawn defnyddio’r symbol rhywbeth fel ‘Mynd @ y ffeil’ i awgrymu rhywbeth ym maes TG. Efallai bod ‘canfod’ yn awgrymu bod rhywun wedi dod o hyd i rywbeth yn lle bod rhywun yn chwilio amdano. Be am eiGeisio ac eiGael? Rhywbeth Beiblaidd bron – ddim yn cŵl iawn ella! – Ceisiwch a chwi a gewch!
Carolyn
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Huw Garan
Anfonwyd/Sent: 04 Mawrth 2009 15:24
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: iFind / iGetIt
Neu, gan ddilyn patrwm Melanie, beth am eiG@nfod ac eiG@el? Dyw e ddim cweit yr un peth ac iFind wrth gwrs, ond mae'n cyfleu'r un syniad o dechnoleg gwybodaeth.
Hg
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Melanie Davies
Sent: 04 March 2009 15:18
To: [log in to unmask]
Subject: Re: iFind / iGetItHelo Osian,
Falle nad yw hyn yn ysbrydoledig iawn ond falle'n cyfleu'r pwrpas?
eiGanfod
eiGael
Melanie
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank rel=nofollow ymailto="mailto:[log in to unmask]">Osian Rhys
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank rel=nofollow ymailto="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, March 04, 2009 2:47 PM
Subject: iFind / iGetIt
Prynhawn da ichi gyfeillion,
Gofynnwyd imi am gyfieithiad o ddau frand newydd sy'n cael eu sefydlu yma, sef
iFind
ac
iGetIt
Mae'r ddau yn rhan o wasanaethau'r llyfrgell, ac yn ymwneud yn bendol â'r adnoddau cyfrifiadurol yno.
Bydd iFind yn frand eang yn cwmpasu peiriannau chwilio ar y we, rhestrau o gyfnodolion, peiriannau chwilio am lyfrau ac ati, drwy ddefnyddio'r cyfrifiadur.
Fel rhan o'r gwasanaeth hwnnw, os dw i wedi deall yn iawn, bydd logo bach "iGetIt" yn ymddangos weithiau wrth ochr enwau llyfrau os bydd modd eu cael o'n llyfrgell ni. Felly bydd rhywun yn clicio ar y botwm er mwyn cael gafael ar y llyfr hwnnw (they will click on the logo in order to 'get it').
Dw i wedi checkio ynghylch yr "i" ar ddechrau'r geiriau: nid yw'n golygu "information" na dim o sylwedd, edrych yn cool yw'r bwriad. Sgwn i a oes rhywbeth felly a fyddai'n edrych yn cwl yn Gymraeg hefyd..? Er, mae symlrwydd y peth yn bwysig i ni hefyd, rydym am annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaeth Cymraeg... Ddim yn gofyn lot, nadyn?
Roedd eich syniadau neithiwr am varsity yn grêt -- sgwn i a oes fflachiau o ysbrydoliaeth gennych heddiw?
Diolch yn fawr iawn,
OsianNo virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.0.237 / Virus Database: 270.11.7/1983 - Release Date: 03/04/09 07:41:00