Prynhawn da ichi gyfeillion, Gofynnwyd imi am gyfieithiad o ddau frand newydd sy'n cael eu sefydlu yma, sef * iFind* ac * iGetIt* Mae'r ddau yn rhan o wasanaethau'r llyfrgell, ac yn ymwneud yn bendol â'r adnoddau cyfrifiadurol yno. Bydd iFind yn frand eang yn cwmpasu peiriannau chwilio ar y we, rhestrau o gyfnodolion, peiriannau chwilio am lyfrau ac ati, drwy ddefnyddio'r cyfrifiadur. Fel rhan o'r gwasanaeth hwnnw, os dw i wedi deall yn iawn, bydd logo bach "iGetIt" yn ymddangos weithiau wrth ochr enwau llyfrau os bydd modd eu cael o'n llyfrgell ni. Felly bydd rhywun yn clicio ar y botwm er mwyn cael gafael ar y llyfr hwnnw (they will click on the logo in order to 'get it'). Dw i wedi checkio ynghylch yr "i" ar ddechrau'r geiriau: nid yw'n golygu "information" na dim o sylwedd, edrych yn cool yw'r bwriad. Sgwn i a oes rhywbeth felly a fyddai'n edrych yn cŵl yn Gymraeg hefyd..? Er, mae symlrwydd y peth yn bwysig i ni hefyd, rydym am annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaeth Cymraeg... Ddim yn gofyn lot, nadyn? Roedd eich syniadau neithiwr am varsity yn grêt -- sgwn i a oes fflachiau o ysbrydoliaeth gennych heddiw? Diolch yn fawr iawn, Osian