Am 'promiscuous (sexually)' dyma gynigion GyA -
'anfoesol, anllad, trythyll, llac eich moesau'.
Anhygoel! Sôn am adael i'ch gwerthoedd (rhagfarn)
eich hun fynd yn drech na'ch cywirdeb ieithyddol. Petawn eisiau gwersi moeseg mi
drown at y Beibl. Ond i gael gair Cymraeg sy'n cyfateb yn union i ystyr gair
Saesneg hoffwn allu dibynnu ar y Geiriadur!
Amlgymharus sydd yn Cysgeir. Mi wneith hwnna'r tro
yn iawn.
Geraint