Be ydy hwn - math o gerddoriaeth? Gwahanol fathau o gerddoriaeth werin wedi'u cyfuno falle? Neu gerddoriaeth werin wedi'i chyfuno efo mathau eraill o gerddoriaeth - e.e. gwerin-roc. Ydy'r cyd-destun yn helpu?
Date: Tue, 31 Mar 2009 22:21:51 +0200
From:
[log in to unmask]Subject: folk-fusion
To:
[log in to unmask]
Dwi'm yn meddwl mai cwestiwn ydi hwn, ond sgrech. Tydi hwnnw'n golygu dim, nacydi, sut medar rhywbeth fod yn fusion ar ei ben ei hun? Onid oes angen iddo gael ei ffiwsio hefo rwbath arall????
Dwi wedi laru efo pobol sy'n sgwennu lol botas maip a minna'n gorfod trio gneud rhyw ben ne gwnffon arno fo
Annes
Share your photos with Windows Live Photos – Free.
Try it Now!