Mae "partner" yn cael ei ddefnyddio ar gyfer "ffrind" (dau ddyn/fachgen yn unig am wn i) - yn y de orllewin.

Siân 

On 2 Mar 2009, at 13:31, Ann Corkett wrote:

Soniaf am hyn wrth Bruce.
 
Gyda llaw, mae'n dda gweld bod pawb yn awtomatig yn defnyddio "cymar" yn hytrach na "phartner" (dim ond yn addas ar gyfer busnes a chwarae cardiau yn ol Bruce). 
 
Pan oeddwn i'n gweithio yn swyddfa Prif Weithredwr Ceredigion, finnau'n ddysgwraig ddibrofiad a'r Ysgrifenyddes heb fawr o Gymraeg, byddwn i'n ei helpu wrth lenwi'r cardiau gwahoddiad i ginio'r Cadeirydd.  Rhaid ei bod hi wedi gofyn i rywun unwaith "What's the Welsh for 'partner?'", achos mi gafodd pob gwestai di-briod, gwr neu wraig, wahoddiad ar gyfer, e.e., Mr John Jones a chymar. Dim ond yn weddol ddiweddar ydw i wedi cofio hyn a sylweddoli beth oedden ni'n ei ddweud.
 
Ond a yw hynny'n golygu bod angen dweud "amlgymhares" hefyd???
 
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Geraint Lovgreen
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, March 02, 2009 12:48 PM
Subject: Re: promiscuous

Dwi ddim yn siwr ydi "amlweddog" yn addas - yn ôl GPC, "dan lawer iau" ydi'r ystyr, ac "amlwreigiog" yn awgrymu bod bod â gwraig yr un fath â bod "dan yr iau": mae'r syniad o faich yn bodoli yno. Dwi ddim yn meddwl bod pobl promiscuous yn teimlo'u bod nhw dan unrhyw iau nac mewn unrhyw wedd (yn yr ystyr "harnais").
 
Mae hefyd yn gwneud imi feddwl am "multiphase/amlwedd".
 
Oes rhywbeth o'i le ar "amlgymar"? Mae'n ddealladwy. Dyna ddefnyddia i, dwi'n meddwl.
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, March 02, 2009 12:33 PM
Subject: Re: promiscuous

Cytuna Bruce fod angen rhywbeth ychwanegol ac yn awgrymu "amlweddog", gw. GPC.
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, March 02, 2009 12:24 PM
Subject: Re: promiscuous

Mi wna i awgrymu wrth Bruce bod angen ychwanegu rhywbeth arall yn y cywiriadau i'r Geiriadur. Diolch am yr awgrym hwn ac am eich awgrymiadau defnyddiol eraill o dro i dro.
Ann 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Geraint Lovgreen
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, March 02, 2009 12:17 PM
Subject: Re: promiscuous

Annwyl Ann
 
Mae Geiriadur i fod i adlewyrchu'r hyn a ddywedir eisoes, ydi, ond nid i roi slant moesol nad oedd yn bodoli yn y Saesneg, boed heddiw nac yn 1994. Mae hynny'n anfaddeuol mewn gwaith sydd i fod yn wrthrychol.
 
Y cynigion yn y Geiriadur - 'anfoesol, anllad, trythyll, llac eich moesau' - ydi'r hyn a ddywedir eisoes am "immoral, wanton, lascivious, of loose morals". Does dim un geiriadur Cymraeg-Saesneg yn rhoi "promiscuous" yn gyfieithiad am yr un o'r pedwar gair a gynigir gan GyA.
 
Mae'n ddrwg gen i os wyt ti'n cymryd mai "fflamio" ydi hyn, ond dim ond isio gair am 'promiscuous' oeddwn i. GyA ydi un o fy hoff lyfrau fel y gwyddost, a dydi o ddim fel arfer yn fy siomi!
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, March 02, 2009 11:58 AM
Subject: Re: promiscuous

Annwyl Geraint,
 
Cyn imi benderfynu gofyn am sylwadau Bruce - a Dafydd Glyn? - ar eich neges, a gorfod egluro'r gair "fflamio" wrth Bruce unwaith eto, ga i wneud cwpl o bwyntiau:
 
(i) cytunaf nad yw dewisiadau GyrA yn ddigon manwl;
(ii) mae geiriadur i adlewyrchu'r hyn a ddywedir eisoes, os oes modd, yn hytrach na bathu termau newydd. Ydych chi'n sicr nad dyna'r termau y byddai'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg wedi'u dewis yn 1994 (neu bryd bynnag a olygid y darn yna o'r Geiriadur ddiwethaf cyn ei gyhoeddi).  Efallai 'roedd angen, hyd yn oed bryd hynny, ryw air heb arlliw moesol i ddisgrifio arferion rhai anifeiliad, ond ni welaf y gellid beirniadu geiriadur am beidio ag adlewyrchu newidiadau mewn cymdeithas nad oedd wedi digwydd ar y pryd.  Ai "promiscuous" yw'r dewis term y byddai rhywun sy'n arddel yr arfer yn ei ddewis i ddisgrifio ei hun hyd yn oed rwan?
 
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Geraint Lovgreen
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, March 02, 2009 11:28 AM
Subject: promiscuous

Am 'promiscuous (sexually)' dyma gynigion GyA - 'anfoesol, anllad, trythyll, llac eich moesau'.
Anhygoel! Sôn am adael i'ch gwerthoedd (rhagfarn) eich hun fynd yn drech na'ch cywirdeb ieithyddol. Petawn eisiau gwersi moeseg mi drown at y Beibl. Ond i gael gair Cymraeg sy'n cyfateb yn union i ystyr gair Saesneg hoffwn allu dibynnu ar y Geiriadur!
 
Amlgymharus sydd yn Cysgeir. Mi wneith hwnna'r tro yn iawn.
 
Geraint

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com 
Version: 8.0.237 / Virus Database: 270.11.5/1979 - Release Date: 03/01/09 17:46:00