Print

Print


On i'n meddwl mai ystyr 'singing off the same hymn sheet' oedd bod pawb yn
dallt ei gilydd, yn hytrach na bod un yn y cae moron a'r llall yn y cae
maip.

Annes

2009/3/18 CATRIN ALUN <[log in to unmask]>

>  Tybed ydy 'run the agenda past ....' ar y rhestr?!  Oni fyddai 'dangos'
> yn ddigon?!!!
>
> Hmm!
>
>  ------------------------------
> *From:* "Alun, Steffan" <[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> *Sent:* Wednesday, 18 March, 2009 2:08:00 PM
>
> *Subject:* Re: Argymhellion yr LGA
>
> Cytuno'n llwyr - fel y nodais eisoes, rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf o'r
> rhestr, ond yn teimlo bod ambell enghraifft yn mynd yn rhy bell, ac yn
> tanseilio diben y rhestr.
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
> Sent: 18 March 2009 13:20
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Argymhellion yr LGA
>
>
> Mae hyn yn wir i gyd, ond ar wahan i'r termau cywrain mae llu o eiriau bach
> eraill yn cael eu dirdynnu a'u hystumio, geirau megis 'within' (yn lle
> 'in'), 'across' 'vibrant', 'exciting', ayyb.
>
> Tim
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Alun, Steffan
> Sent: 18 March 2009 12:46
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Argymhellion yr LGA
>
>
> Deall hynny, ond does bosib fod "challenge" yn ddigon dealladwy y tu allan
> i sefydliadau?
>
> Eto, rwy'n teimlo mai atgasedd greddfol at ddefnydd corfforaethau o eiriau
> gwan sy'n gyfrifol am gynnwys geiriau o'r fath, ac yn fy marn i, mae hynny'n
> mynd yn rhy bell.  Mae "tackling litter is a challenge" yr un mor ddilys â
> "tackling litter is a problem", a dydw i ddim yn gweld unrhyw reswm i orfodi
> awduron y darnau gwreiddiol i ddefnyddio'r ail gan honni bod y frawddeg
> gyntaf yn gamarweiniol.
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
> Sent: 18 March 2009 12:33
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Argymhellion yr LGA
>
>
> > Ie, mae nhw wedi colli'r pwynt braidd fod rhai geiriau yn cael eu
> > bathu gyda ystyr penodol sy'n cael eu deall o fewn y sefydliad.
>
> Dwi'n meddwl mai dyna ydi eu pwynt nhw - sef bod y geiriau'n cael eu deall
> o
> fewn y sefydliad, ond yn da i ddim i gyfathrebu efo'r cyhoedd.
>
>
> ******************************************************************
> This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended
> solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
> If you have received this e-mail in error, please notify the administrator
> on the following address: [log in to unmask]
>
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol
> ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os
> ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r
> gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask]*******************************************************************
>