-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 02 March 2009 12:34
To: [log in to unmask]
Subject: Re: promiscuousCytuna Bruce fod angen rhywbeth ychwanegol ac yn awgrymu "amlweddog", gw. GPC.Ann----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann CorkettTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Monday, March 02, 2009 12:24 PMSubject: Re: promiscuousMi wna i awgrymu wrth Bruce bod angen ychwanegu rhywbeth arall yn y cywiriadau i'r Geiriadur. Diolch am yr awgrym hwn ac am eich awgrymiadau defnyddiol eraill o dro i dro.Ann----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Geraint LovgreenTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Monday, March 02, 2009 12:17 PMSubject: Re: promiscuousAnnwyl AnnMae Geiriadur i fod i adlewyrchu'r hyn a ddywedir eisoes, ydi, ond nid i roi slant moesol nad oedd yn bodoli yn y Saesneg, boed heddiw nac yn 1994. Mae hynny'n anfaddeuol mewn gwaith sydd i fod yn wrthrychol.Y cynigion yn y Geiriadur - 'anfoesol, anllad, trythyll, llac eich moesau' - ydi'r hyn a ddywedir eisoes am "immoral, wanton, lascivious, of loose morals". Does dim un geiriadur Cymraeg-Saesneg yn rhoi "promiscuous" yn gyfieithiad am yr un o'r pedwar gair a gynigir gan GyA.Mae'n ddrwg gen i os wyt ti'n cymryd mai "fflamio" ydi hyn, ond dim ond isio gair am 'promiscuous' oeddwn i. GyA ydi un o fy hoff lyfrau fel y gwyddost, a dydi o ddim fel arfer yn fy siomi!Geraint----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann CorkettTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Monday, March 02, 2009 11:58 AMSubject: Re: promiscuousAnnwyl Geraint,Cyn imi benderfynu gofyn am sylwadau Bruce - a Dafydd Glyn? - ar eich neges, a gorfod egluro'r gair "fflamio" wrth Bruce unwaith eto, ga i wneud cwpl o bwyntiau:(i) cytunaf nad yw dewisiadau GyrA yn ddigon manwl;(ii) mae geiriadur i adlewyrchu'r hyn a ddywedir eisoes, os oes modd, yn hytrach na bathu termau newydd. Ydych chi'n sicr nad dyna'r termau y byddai'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg wedi'u dewis yn 1994 (neu bryd bynnag a olygid y darn yna o'r Geiriadur ddiwethaf cyn ei gyhoeddi). Efallai 'roedd angen, hyd yn oed bryd hynny, ryw air heb arlliw moesol i ddisgrifio arferion rhai anifeiliad, ond ni welaf y gellid beirniadu geiriadur am beidio ag adlewyrchu newidiadau mewn cymdeithas nad oedd wedi digwydd ar y pryd. Ai "promiscuous" yw'r dewis term y byddai rhywun sy'n arddel yr arfer yn ei ddewis i ddisgrifio ei hun hyd yn oed rwan?Ann----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Geraint LovgreenTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Monday, March 02, 2009 11:28 AMSubject: promiscuousAm 'promiscuous (sexually)' dyma gynigion GyA - 'anfoesol, anllad, trythyll, llac eich moesau'.Anhygoel! Sôn am adael i'ch gwerthoedd (rhagfarn) eich hun fynd yn drech na'ch cywirdeb ieithyddol. Petawn eisiau gwersi moeseg mi drown at y Beibl. Ond i gael gair Cymraeg sy'n cyfateb yn union i ystyr gair Saesneg hoffwn allu dibynnu ar y Geiriadur!Amlgymharus sydd yn Cysgeir. Mi wneith hwnna'r tro yn iawn.Geraint
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.0.237 / Virus Database: 270.11.5/1979 - Release Date: 03/01/09 17:46:00
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.0.237 / Virus Database: 270.11.5/1979 - Release Date: 03/01/09 17:46:00
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.0.237 / Virus Database: 270.11.5/1979 - Release Date: 03/01/09 17:46:00