Print

Print


Diolch yn fawr - mae nifer dda o enghreifftiau o 'noe' ar Gwgl, gan gynnwys
un o Lanbedrog.
I'r dim!
Catrin
  -----Original Message-----
  From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Bethan Jones
  Sent: 10 March 2009 13:53
  To: [log in to unmask]
  Subject: Re: butter pat


  'Noe' ydi'r gair rydw i'n gyfarwydd hefo fo ym Môn.
  Cofion cynnes
  Bethan

    ----- Original Message -----
    From: Catrin Beard
    To: [log in to unmask]
    Sent: Tuesday, March 10, 2009 1:46 PM
    Subject: butter pat


    Fel 'townie', i mi mae menyn yn dod mewn blociau wedi'i lapio'n daclus
mewn papur, ond dwi'n deall nad felny y bu erioed, ac ers talwm (yn y wlad)
byddai pobl yn gorfod ffurfio'r blociau gyda'u 'butter pat'.

    Awgryma Gyr yr Academi 'ysbodol fenyn' ... ond yn ol GPC mae ysbodol yn
golygu 'spatula, slice, ladle, potstick, porrige stick, staff, cudgel,
sword'

    Ydi ysbodol yn dderbyniol, ynte oes yna air arall sy'n dal i gael ei
ddefnyddio am y teclyn, yn arbennig yn ardal Sir Gaernarfon?

    Diolch am unrhyw gymorth
    Catrin