Fel 'townie', i mi mae menyn yn dod mewn blociau wedi'i lapio'n daclus mewn papur, ond dwi'n deall nad felny y bu erioed, ac ers talwm (yn y wlad) byddai pobl yn gorfod ffurfio'r blociau gyda'u 'butter pat'.
 
Awgryma Gyr yr Academi 'ysbodol fenyn' ... ond yn ol GPC mae ysbodol yn golygu 'spatula, slice, ladle, potstick, porrige stick, staff, cudgel, sword'
 
Ydi ysbodol yn dderbyniol, ynte oes yna air arall sy'n dal i gael ei ddefnyddio am y teclyn, yn arbennig yn ardal Sir Gaernarfon?
 
Diolch am unrhyw gymorth
Catrin