Print

Print


Os gwir y cof, mae'r brodorion yn ysgrifennu Venexia, a ynghenir 'fenesia'.
 
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of annes gruffydd
Sent: 09 March 2009 11:23
To: [log in to unmask]
Subject: Re: enwau trefi/dinasoedd

Ond Tim, mae Fenis yn air mor hyll - mae o hyd yn oed edrych yn hyll - paid a gofyn i mi pam.
 
Annes

2009/3/9 Saunders, Tim <[log in to unmask]>
O ran 'Fenis', dna fyddwn i'n dueddol o'i ddefnyddio, yn rhannol aherwydd fod y ffurf wedi hen ymwreddio yn y Gymraeg, acyn rhannol hefyd s, gof y sain 's' yn llawer nes at yr ynghaniad yn iaith y ddinas, yn hytrach na'r 'ts' Tosganeg a ddysgir yn yr ysgolion.
 
Cofion,
 
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of martin davies
Sent: 06 March 2009 22:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: enwau trefi/dinasoedd

Diddorol gweld Bwrdd yr Iaith yn cynnig y dylid defnyddio'r ffurf ryngwladol ar yr enw Korea, China, qatar - ayb heb ychwanegu taw fersiwn Saesneg yr enw sydd gyda nhw mewn golwg

> Date: Fri, 6 Mar 2009 15:40:57 +0000
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: enwau trefi/dinasoedd
> To: [log in to unmask]
>
> Mae canllawiau gan Fwrdd yr Iaith yma:
>
> http://www.byig-wlb.org.uk/Cymraeg/cyhoeddiadau/Cyhoeddiadau/4648.pdf
>
> Gobeithio y bydd o ryw gymorth
>
> Siān
>
>
> On 6 Mar 2009, at 14:03, annes gruffydd wrote:
>
> > Oes yna ryw arweiniad? Er enghraifft, pam trawslythrennu
> > cyfieithiad enw dinas o'r Saesneg? e.e. Fenis yn hytrach na
> > dychwelyd i'r gwreiddiol? Neu, os oes rhaid, trawslythrennu'r
> > gwreiddiol yn hytrach na'r Saesneg ond dwi'n meddwl bod hynny
> > braidd yn sili. Ydi'n dderbyniol i mi ddefnyddio enwa dinasoedd -
> > Venezia, Seviglia - siawns nad wyr pobol sy'n mynd i gyngherdda
> > cerddoriaeth glasurol be ydyn nhw? ac os na wyddan nhw rhyngddyn
> > nhw a'u petha
> >
> > Annes


Windows Live Hotmail just got better. Find out more!