Print

Print


Diolch yn fawr, bawb. Felly ga i wneudfel y mynna i fwy neu lai? A bod yn afreolus o anghyson (fel Geraint). Tybed pam bod enwa'r Almaen a Ffrainc, at ei gilydd, wedi dianc rhag y Seisnigeiddio hyll ma ac enwa hardd yr Eidal wedi diodda mor enbyd?
 
Annes

2009/3/6 martin davies <[log in to unmask]>
Diddorol gweld Bwrdd yr Iaith yn cynnig y dylid defnyddio'r ffurf ryngwladol ar yr enw Korea, China, qatar - ayb heb ychwanegu taw fersiwn Saesneg yr enw sydd gyda nhw mewn golwg

> Date: Fri, 6 Mar 2009 15:40:57 +0000
> From: [log in to unmask]

> Subject: Re: enwau trefi/dinasoedd
> Mae canllawiau gan Fwrdd yr Iaith yma:
>
> http://www.byig-wlb.org.uk/Cymraeg/cyhoeddiadau/Cyhoeddiadau/4648.pdf
>
> Gobeithio y bydd o ryw gymorth
>
> Siān
>
>
> On 6 Mar 2009, at 14:03, annes gruffydd wrote:
>
> > Oes yna ryw arweiniad? Er enghraifft, pam trawslythrennu
> > cyfieithiad enw dinas o'r Saesneg? e.e. Fenis yn hytrach na
> > dychwelyd i'r gwreiddiol? Neu, os oes rhaid, trawslythrennu'r
> > gwreiddiol yn hytrach na'r Saesneg ond dwi'n meddwl bod hynny
> > braidd yn sili. Ydi'n dderbyniol i mi ddefnyddio enwa dinasoedd -
> > Venezia, Seviglia - siawns nad wyr pobol sy'n mynd i gyngherdda
> > cerddoriaeth glasurol be ydyn nhw? ac os na wyddan nhw rhyngddyn
> > nhw a'u petha
> >
> > Annes


Windows Live Hotmail just got better. Find out more!