Diolch yn fawr, bawb. Felly ga i wneudfel y mynna i fwy neu lai? A bod yn afreolus o anghyson (fel Geraint). Tybed pam bod enwa'r Almaen a Ffrainc, at ei gilydd, wedi dianc rhag y Seisnigeiddio hyll ma ac enwa hardd yr Eidal wedi diodda mor enbyd? Annes 2009/3/6 martin davies <[log in to unmask]> > Diddorol gweld Bwrdd yr Iaith yn cynnig y dylid defnyddio'r *ffurf > ryngwladol* ar yr enw Korea, China, qatar - ayb heb ychwanegu taw fersiwn > Saesneg yr enw sydd gyda nhw mewn golwg > > > Date: Fri, 6 Mar 2009 15:40:57 +0000 > > From: [log in to unmask] > > Subject: Re: enwau trefi/dinasoedd > > To: [log in to unmask] > > > > Mae canllawiau gan Fwrdd yr Iaith yma: > > > > http://www.byig-wlb.org.uk/Cymraeg/cyhoeddiadau/Cyhoeddiadau/4648.pdf > > > > Gobeithio y bydd o ryw gymorth > > > > Siān > > > > > > On 6 Mar 2009, at 14:03, annes gruffydd wrote: > > > > > Oes yna ryw arweiniad? Er enghraifft, pam trawslythrennu > > > cyfieithiad enw dinas o'r Saesneg? e.e. Fenis yn hytrach na > > > dychwelyd i'r gwreiddiol? Neu, os oes rhaid, trawslythrennu'r > > > gwreiddiol yn hytrach na'r Saesneg ond dwi'n meddwl bod hynny > > > braidd yn sili. Ydi'n dderbyniol i mi ddefnyddio enwa dinasoedd - > > > Venezia, Seviglia - siawns nad wyr pobol sy'n mynd i gyngherdda > > > cerddoriaeth glasurol be ydyn nhw? ac os na wyddan nhw rhyngddyn > > > nhw a'u petha > > > > > > Annes > > ------------------------------ > Windows Live Hotmail just got better. Find out more!<http://clk.atdmt.com/UKM/go/134665311/direct/01/> >