Neu ai mewn llawysgrifen oedd yr atebion gwreiddiol a bod y
cwsmer wedi cael rhywun di-Gymraeg i’w teipio?
‘wrth heneiddio’ yw ‘with leneiddis’, mae’n siŵr.
Claire
From: Discussion of Welsh
language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Siân Roberts
Sent: 06 March 2009 09:49
To: [log in to unmask]
Subject: Re: help gyda brawddegau aneglur
Tybed ai "heneiddio" yw "leneiddis"?
Dw i'n cymryd mai wedi sganio'r Gymraeg maen
nhw. Oes posib gofyn am gael gweld y gwreiddiol?
On 6 Mar 2009, at 09:36, Melanie Davies wrote:
Annwyl GYfeillion,
Help!! Rwy'n cyfieithu darn byr iawn o waith i'r
SAesneg. Rhyw daenlen o atebion i gwestiwn am broblemau iechyd
ydyw. Mae llawer o wallau teipio ynddo a gallaf ymdopi â datrys y rheiny
ond mae rhai pethau'n hollol aneglur.
Mae rhai pethau'n ddigon hawdd fel 'CLun newydd' etc ond dyma'r
rhai rwy'n cael problemau gyda nhw. Tybed a all rai ohonoch ddyfalu beth
yw rhai ohonyn nhw? Bydden i'n falch iawn os gallwch chi!
problem with leneiddis - ychydig a boenan cyhyrau (problem gyda ?
- ychydig o boen yn y cyhyrau?)
llai a neth yn fy mreicluau a m coesau - matu cerli scabanau (llai
o nerth yn fy mreichiau a'm coesau - methu ? ?)
Diolch
Melanie
Melanie Davies
Cyfieithydd/Translator
01239 710334 / 07779 207357