Print

Print


Gwrandewch ar yr hyn mae Mary yn ei ddweud, Catrin - nid y 'butter  pat' yw'r 
noe, Fel y dywed hithau ac eraill, y plat, neu fowlen fflat,  mae'r menyn yn 
cael ei drin arni yw'r noe -  .Digon ohonyn nhw yn Sain  Ffagan! 'Clapiwr/wyr 
menyn' fyddai nain yn ei ddefnyddio yn sir Feirionnydd (  ond roedd hi o Sir 
Fflint yn wreiddiol!), ac fel y dywed eraill, clywais hefyd  'dwylo menyn' yn 
Nolgellau. 
 
Alwyn