Print

Print


Yn gyntaf, diolch i bawb am yr atebion. Ac ymddiheuriadau nad ydw i wedi ymateb - wedi cael llawer o iawn o anhawster efo'r e-bost ddoe, a nawr 'dw i wedi derbyn y sylwadau i gyd, er imi eu gweld nhw o'r blaen trwy edrych yn yr archif.
 
I ddweud y gwir, holi oeddwn i a oedd neb wedi dod ar draws cyfieithiad o'r dyfyniad!
 
Cytunaf yn llwyr - a Bruce yn cytuno'n gryfach byth - mai brawychiaeth yw'r term rhesymol, ond wedi edrych ar TermCymru, a gweld bod enw'r ddeddf ei hun yn defnyddio Terfysgaeth, allwn i ddim mynd yn erbyn y lli.
 
Mae Robin Lewis yn gwahaniaethu rhwng "terfysgaeth" (terrorism) a "terfysg" (riot).  "Beth mae o'n galw "rioters" 'te?" meddai Bruce.  "reiatwyr" - Ho hum ...
 
Ann
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">David Bullock
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, February 09, 2009 1:50 PM
Subject: Re: Deddf Terfysgaeth 2000

Label yn unig sy gyda ni yma; digon teg. Ond pam na ddylen ni geisio rhoi labeli mwy cywir a manwl ar bethau?  

 

Mae angen gwahaniaethu rhwng y math o weithredoedd sy’n gysylltiedig â’r undebau llafur yn Ffrainc, neu’r protestwyr a ymladdodd yn erbyn treth y pen yng nghyfnod Thatcher ar y naill law, a’r math o weithredoedd sy’n cael eu defnyddio gan bobl fel ETA, Al Qaeda neu’r Teigrod Tamil ar y llaw arall.

 

Ydy hi’n deg galw’r naill a’r llall yn derfysgwyr?

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Saunders, Tim
Anfonwyd/Sent: 09 Chwefror 2009 13:03
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Deddf Terfysgaeth 2000

 

Label yw hi a dim mwy. Ddim yn un dda iawn, rwy'n cytuno, ond dyna ni.

 

T

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 09 February 2009 12:50
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Deddf Terfysgaeth 2000

Mae'n wir mai "terfysgaeth" sy'n cael ei ddefnyddio'n gyffredin am "terrorism", ond dydi o ddim yn gyfieithiad da o gwbl . Holl ddiben "terrorism" ydi peri "terror" - braw - yn y boblogaeth yn gyffredinol, felly byddai brawychiaeth a brawychwyr yn cyfleu'r cysyniad yn llawer gwell. Ond dwi'n ofni bod "terfysgaeth/terfysgwyr" wedi ennill y dydd ar newyddion y cyfryngau ac ati, er nad ydio'n cyfleu gwir ystyr y peth o gwbl.

 

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Saunders, Tim

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Monday, February 09, 2009 9:21 AM

Subject: Re: Deddf Terfysgaeth 2000

 

'Terfysgaeth' y mae cyrff sywddogol yn ei ffafrio, a dyna'r term a geir mewn deddfwriaeth hefyd.

 

Tim

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of David Bullock
Sent: 09 February 2009 07:57
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Deddf Terfysgaeth 2000

Dwy ddim yn gwybod am unrhyw gyfieithiad, ond i gyfleu ‘terrorism’ ydy ‘brawychiaeth’ yn well dewis efallai, am ei fod yn fwy penodol?

 

Dim ond ‘brawychiaeth’ sydd gan Geiriadur yr Academi ar gyfer ‘terrorism’, ac mae’n cadw ‘terfysg’ i’w restru o dan ‘riot’. Yn yr un cofnod, mae’n rhoi ‘y Ddeddf Derfysg’ ar gyfer y ‘Riot Act’, felly fe allai fod yn anodd iawn i rywun weld y gwahaniaeth rhwng y Ddeddf Derfysg a’r Ddeddf Terfysgaeth pe na baen ni’n defnyddio ‘brawychiaeth’.

 

 

 

 

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett
Anfonwyd/Sent: 08 Chwefror 2009 17:07
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Deddf Terfysgaeth 2000

 

Part 1 of the Terrorism Act 2000 - contains the following interpretation

 

Tybed a oes cyfieithiad lled-swyddogol o'r isod neu ran ohono?  Ni allaf ddod o hyd i unrhywbeth ar wefan OPSI, dim ond dyfynnu ychydig ohono ar flog rhywun. Yn ddelfrydol, mae arna i angen gwybod erbyn diwedd bore dydd Llun, er y bydd modd imi ddiwygio fy ngyfieithiad fy hun yn nes ymlaen yn y proflenni os bydd rhaid.

Diolch,

Ann

 

“1                (1)       In this Act “terrorism” means the use or threat of action where -

(a)                the action falls within subsection (2),

 (b)               the use or threat is designed to influence the government or to intimidate the public or a section of the public,

and

(c)                the use or threat is made for the purpose of advancing a political, religious or ideological cause.

 

 

(2)               Action falls within this subsection if it

 

(a)                involves serious violence against a person,

(b)                involves serious damage to property,

(c)                endangers a persons life, other than the person committing the action,

(d)                creates a serious risk to the health or safety of the public or a section of the public,

(e)                is designed to interfere with or seriously disrupt an electronic system.

 

(3)               The use or threat of action falling within subsection (2) which involves the use of firearms or explosives is terrorism whether or not subsection 1(b) is satisfied.”

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.0.233 / Virus Database: 270.10.19/1940 - Release Date: 02/08/09 17:57:00

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.0.233 / Virus Database: 270.10.19/1940 - Release Date: 02/08/09 17:57:00



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.0.233 / Virus Database: 270.10.19/1942 - Release Date: 02/09/09 17:40:00