Print

Print


Mae gwyddonydd Cymraeg ei iaith wedi gofyn am y term hwn; p'un yw'r cyfieithiad mwyaf addas: "arogl y corff"  ynteu "arogleuon y corff"?  Nid yw "oglau chwys" na "gwynt chwys" (GyrA) yn cyfleu'r union ystyr am nad dim ond chwys sydd dan sylw ond unrhyw arogl(euon) pellach.  Efallai bod hyn yn golygu bod yn rhaid rhoi'r lluosog oni bai bod term mwy niwtral yn dod i'r meddwl sydd ddim yn gwneud i ni feddwl am niferoedd!  Mae'n siwr nad oes talfyriad i BO, nag oes?

Dyma'r frawddeg sydd gan yr academydd ar hyn o bryd:

In the School of Pharmacy, we are conducting a study into the microbiological causes of body odour.
Yn Ysgol Fferylliaeth Cymru rydym yn cynnal astudiaeth ar achosion meicrobiolegol sy'n effiethio ar arogleuon y corff.

Diolch

Gwen