Holi'r cwsmer fyddai orau dw i'n meddwl - a rhoi gwybod i ni beth yw'r penderfyniad.
Bosib daw e'n un o'r geiriau 'na sy'n codi ym mhob man.

Siân

On 27 Feb 2009, at 10:25, Claire Richards wrote:

Diffiniad o’r Saesneg o eiriadur Rhydychen
Steer, n.5  slang (orig. U.S.). A piece of advice or information; a tip, a lead.
 
Mae TermCymru’n rhoi ‘gogwydd’, ‘pwyslais’, statws 5, gyda'r nodyn “fel ag yn 'consistent with the steer in the draft guidance” a hefyd ‘cyfeiriad pendant’ ar gyfer‘clear steer’.
 
Cofnodion dwi’n eu cyfieithu (nid i’r Cynulliad), ac ynddyn nhw, ar ôl trafodaeth ar ffyrdd o arbed arian, dywedir “The Chief Executive noted the steer and decisions which had been made.”
 
Hefyd dywedir “The paper provided an opportunity for members to consider (amryfal gynlluniau), to give steers on activities identified as possible areas for cost savings and some new activities...”
 
Wedyn, dywedir “A steer was given that the commissioning of (rhyw waith neu’i gilydd) at a cost of Ł10,000 should be postponed.”
 
Yn nes ymlaen dywedir “Members concurred and gave the steer that officers might be able to undertake some investigatory work without incurring consultancy costs.”
 
Dwi ddim yn credu bod yr un o’r geiriau yn TermCymru’n gweddu yma.  Ai ‘cyngor’ ddylwn i ei ddefnyddio am ‘steer’ a ‘cynghori’ am ‘give steers / the steer’?   Neu ydi’r ystyr mor gryf nes bod y geiriau ‘cyfarwyddyd’ a ‘cyfarwyddo’ yn addas?
 
Diolch am unrhyw gymorth.
Claire
 
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.
 
Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road, Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB.