Annwyl gyfeillion, Dydw i ddim yn hollol siwr beth yw hwn ond cyfeirio at yr Arglwydd Chris Patten mae'n ei wneud a gafodd ei ethol yn Domus Exhibitioner yng Ngholeg Balliol, Rhydychen. Yr unig synnwyr allai ei gael ar y we yw bod domus yn air Rhufeinig am dy^. Felly ydy hwn yn meddwl rhywbeth tebyg i Ysgolor Preswyl neu ydw i ar y trywydd anghywir yn llwyr? Diolch yn fawr am unrhyw gymorth. Melanie