Anodd
ar y naw! Bu fy mam yn gwneud ymchwil yn y maes dro'n ôl, ac mae hi'n dweud fod
deviant yn y fath gyd-destunau yn dynodi ymddygiad sy'n gwyro oddi wrth
y patrwm cymeradwy, ond heb o reidrwydd dramgwyddo yn erbyn safon foesol neu
gyfreithiol. Byddai'r term cyn cynnwys, er enghraifft, darlithydd oedd yn mynnu
annerch ei fyfyrwyr wedi'i wisgo fel cowboi.
Yn
iach,
Tim
Dwi'n trio cyfieithu 'deviant behaviour',
'deviant activities' - mae Cysill yn rhoi 'ymddygiad gwyrdroedig' ond mae
hynny i mi yn awgrymu 'perverted' - yr ymddygiad yn yr achos yma ydi unrhyw
beth sy'n mynd yn groes i normau a gwerthoedd cymdeithas, fel fandaliaeth,
dwyn...
unrhyw gynigion?
Diolch ymlaen llaw.
Geraint