Print

Print


Anodd ar y naw! Bu fy mam yn gwneud ymchwil yn y maes dro'n ôl, ac mae hi'n dweud fod deviant yn y fath gyd-destunau yn dynodi ymddygiad sy'n gwyro oddi wrth y patrwm cymeradwy, ond heb o reidrwydd dramgwyddo yn erbyn safon foesol neu gyfreithiol. Byddai'r term cyn cynnwys, er enghraifft, darlithydd oedd yn mynnu annerch ei fyfyrwyr wedi'i wisgo fel cowboi.
 
Yn iach,
 
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 19 February 2009 11:56
To: [log in to unmask]
Subject: deviant

Dwi'n trio cyfieithu 'deviant behaviour', 'deviant activities' - mae Cysill yn rhoi 'ymddygiad gwyrdroedig' ond mae hynny i mi yn awgrymu 'perverted' - yr ymddygiad yn yr achos yma ydi unrhyw beth sy'n mynd yn groes i normau a gwerthoedd cymdeithas, fel fandaliaeth, dwyn...
 
unrhyw gynigion?
 
Diolch ymlaen llaw.
 
Geraint