Pnawn da gyfeillion, Yn rhyfedd iawn fe'n holwyd ni (Prifysgol Abertawe) am hyn yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu bod hyn rywbeth i'w wneud â'r ffaith bod UCU yn rhyw lun ar "ddatganoli" ac yn sefydlu UCU Cymru. Roedd yr un a'n holodd ni yn awyddus i dorri'r ddadl rhwng 'Undeb Prifysgol a Choleg' ac 'Undeb Prifysgolion a Cholegau' (ymddengys bod yr undeb yn defnyddio'r ddau ar hyn o bryd – gweler eu gwefan, yr ail sydd ar eu logo). Fe ddwedon ni bod yr ail yn well na'r cyntaf, ond mai'r cyfieithiad gorau yn ein tyb ni fyddai "Undeb y Prifysgolion a'r Colegau", felly mae'n gysur gwybod bod prifysgolion eraill yn cytuno! Yr ateb gawson ni oedd bod peth amharodrwydd i fynd am drydydd cyfieithiad, sy'n ddigon dealladwy ar un ystyr, ond fe sgwennaf eto i ddweud am gytundeb Aberystwyth a Bangor ar y mater! Nawr yw'r amser i'w gael yn gywir... Osian 2009/2/13 Matthew Clubb <[log in to unmask]> > Mae gennyf i daflen "Ymunwch ag UCU" yma - 'Undeb Prifysgolion a Cholegau' > sydd ar honno, ond fe fyddwn i'n cytuno mai 'Undeb y Prifysgolion a'r > Colegau' fyddai'r cyfieithiad gorau. Dyna beth rwyf i'n ei ddefnyddio. > > Ni all 'Undeb y Prifysgolion a Cholegau' fod yn iawn - y naill gyda'r > fannod > a'r llall hebddi. Alla i ddim meddwl am esboniad i'r cynnig rhyfedd yn > NhermCymru. > > > -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- > Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran > Jones,Sylvia > Prys > Anfonwyd/Sent: 13 Chwefror 2009 09:47 > At/To: [log in to unmask] > Pwnc/Subject: University and College Union > > Gofynnodd rhywun di-Gymraeg i mi y bore 'ma - beth yw teitl y corff hwn yn > Gymraeg? Undeb y Prifysgolion a'r Colegau fyddai fy ymateb greddfol ond o > edrych ar TermCymru gwelaf Undeb Prifysgol a Choleg ond statws 4. > Gwelais hefyd Undeb y Prifysgolion a Cholegau sy'n swnio'n chwithig i mi. > > Diolch yn fawr > > Sylvia. > -- > Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]> > > Uned Gyfieithu/Translation Unit > Canolfan Bedwyr > Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor > > -- >