Print

Print


Diolch yn fawr - defnyddiol iawn.
 
Sian




Date: Tue, 3 Feb 2009 12:43:40 +0000
From: [log in to unmask]
Subject: ATB: Mob
To: [log in to unmask]


 
Helo Siân,
 
Dwi wedi gweld sawl un yn defnyddio 'Sym'.
 
Mi rois i 'Sym' ac 'e-bost' yn Google, ac mi wnaeth hynny fy arwain at sawl llofnod / cerdyn busnes ar y we sy'n defnyddio'r talfyriad 'Sym'.

Cofion gorau,

Huw

 

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Jones
Anfonwyd/Sent: 03 February 2009 12:19
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Mob

Mae'n rhaid imi dalfyrru 'ffôn symudol' i dyfateb â 'mob' yn Saesneg - tair neu bedair llythyren fyddai orau. Oes rhywun wedi gwneud hyn o'r blaen? Unrhyw awgrymiadau? Diolch.
Sian

> Date: Mon, 2 Feb 2009 09:56:09 +0000
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: high frequency words
> To: [log in to unmask]
>
> Un sylw pellach ar hyn ar gyfer yr archif.
>
> Wrth gwrs 'geiriau sy'n codi'n aml' sydd orau (am ei fod yn fwy
> naturiol) lle gellir defnyddio'r ymadrodd yn ei ffurf hir. Ond os oes
> rhaid defnyddio term cryno, mae 'geiriau amledd uchel' yn anghywir -
> 'geiriau amlder uchel' ddylai fod. Mae 'amledd' yn cyfateb i 'frequency'
> yn yr ystyr o 'rate of occurance of vibration' yn Saesneg, - nid dyna
> sydd dan sylw yma, ond yn hytrach 'frequency' yn yr ystyr o 'commonness
> of occurence'.
>
> Delyth
>
>
>
> Alison wrote:
> > Diolch i bawb am y sylwadau.
> >
> > Yn yr achos hwn, dim ond unwaith mae'n codi. Dwi wedi gweld sawl enghraifft o "geiriau amledd uchel" ar y rhyngrwyd - gan gynnwys ar wefan Estyn. Rwy'n cytuno bod "geiriau sy'n codi'n aml" yn llawer mwy naturiol, ond dwi byth yn siŵr beth i'w wneud gydag ymadroddion fel "high frequency" sy'n swnio yr un mor od yn y Saesneg. Rwy'n teimlo bod angen bathu term (er ei fod yr un mor od i'r glust) yn y Gymraeg hefyd weithiau.
> >
> > Diolch eto am y cymorth.
> >
> >
> >
> > -----Original Message-----
> > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
> > Sent: 28 January 2009 16:50
> > To: [log in to unmask]
> > Subject: Re: high frequency words
> >
> > Ar gyfer yr enghraifft honno, awgryma Bruce : y geiriau mynych sy'n codi
> > fynychaf.
> > Ann
> > ----- Original Message -----
> > From: "Geraint Lovgreen" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Wednesday, January 28, 2009 4:44 PM
> > Subject: Re: high frequency words
> >
> >
> >> Y drwg efo defnyddio ymadrodd berfol i gyfieithu term ydi, weithiau mae
> >> angen term, e.e. yn Saesneg gellid cael "...those high frequency words
> >> which
> >> occur most frequently...". Byddai cyfieithu hyn fel "...y geiriau sy'n
> >> codi'n aml sy'n codi amlaf..." yn amlwg yn glogyrnaidd.
> >>
> >> Byddai "y geiriau amledd uchel sy'n codi amlaf" yn llai clogyrnaidd, er yn
> >> amlwg yn jargonllyd.
> >>
> >> Geraint
> >>
> >> ----- Original Message -----
> >> From: "SIAN ROBERTS" <[log in to unmask]>
> >> To: <[log in to unmask]>
> >> Sent: Wednesday, January 28, 2009 4:38 PM
> >> Subject: Re: high frequency words
> >>
> >>
> >> Hynna'n swnio fel buddugoliaeth i synnwyr cyffredin!
> >>
> >>
> >> --- On Wed, 28/1/09, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
> >>
> >>> From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
> >>> Subject: Re: high frequency words
> >>> To: [log in to unmask]
> >>> Date: Wednesday, 28 January, 2009, 4:26 PM
> >>> Mae'n ddrwg gen i os yw' hyn yn rhyw hwyr.
> >>> Anfonais y neges isod at Elen Ogwen neithiwr, a newydd gael
> >>> ei ateb (isod eto).
> >>> Ann
> >>>
> >>> Annwyl Elen,
> >>> Tybed a allech chi helpu cyfieithydd arall sydd wedi gofyn,
> >>> ar grwp trafod termau, am y term ar gyfer "high
> >>> frequency words"?
> >>> Mae rhai wedi awgrymu "geiriau (syml) sy'n
> >>> codi'n aml", ac eraill, "geiriau amledd
> >>> uchel".
> >>> Yn rhywle, mae gen i eirfa Cynllun Dysgu Darllen Project y
> >>> Cyngor Ysgolion .... Mae'r Ganllaw gen i, a gwelaf am y
> >>> tro cyntaf mai chi oedd Cyfarwyddwr y Cynllun. 'Doedd
> >>> gen i mo'r amser i wneud mwy na chwilio'n frysiog ac
> >>> yn aflwyddiannus am ryw gyfeiriad at yr eirfa. Ydych
> >>> chi'n digwydd cofio pa derm a ddefnyddiwyd i gyfeirio at
> >>> "high frequency words"?
> >>>
> >>> Annwyl Ann,
> >>> Mae'r term 'geiriau sy'n codi'n aml' yn
> >>> swnio'n Gymraeg naturiol a byw i mi, sy'n
> >>> cyfleu'r ystyr i'r dim - a dyna fuaswn yn ei
> >>> gymeradwyo heddiw! - yn hytrach na'r llall a gynigiwyd
> >>> yn eich nodyn.
> >>> O ran y term a ddefnyddiwyd yn project y saith degau - nid
> >>> wyf yn cofio'n iawn beth a ddywedwyd pryd hynny ac mae
> >>> fy nghopiau yn yr atig!! Beth bynnag a fu, gwell gennyf
> >>> 'geiriau sy'n codi'n aml'.
> >>> ----- Original Message -----
> >>> From: Alwyn Evans
> >>> To: [log in to unmask]
> >>> Sent: Tuesday, January 27, 2009 11:54 PM
> >>> Subject: Re: high frequency words
> >>>
> >>>
> >>> Rydw'i wedi defnyddio 'geiriau amledd uchel'
> >>> o'r blaen - mae'n cyfleu'r ystyr ( sef geiriau
> >>> megis a, yr, mae sy'n digwydd yn aml)!
> >>>
> >>> Alwyn
> >>>
> >>>
> >>> ------------------------------------------------------------------------------
> >>>
> >>>
> >>>
> >>> No virus found in this incoming message.
> >>> Checked by AVG - http://www.avg.com
> >>> Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.10.14/1920 -
> >>> Release Date: 27/01/2009 18:15
> >
> >
> > --------------------------------------------------------------------------------
> >
> >
> >
> > No virus found in this incoming message.
> > Checked by AVG - http://www.avg.com
> > Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.10.15/1921 - Release Date: 28/01/2009
> > 06:37
>
>
> --
> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
> gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
> gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
> neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
> unwaith a dil�wch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
> rhaid i chi beidio � defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
> gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
> hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
> Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
> bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
> 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
> nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
> rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
> Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
>
> This email and any attachments may contain confidential material and
> is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
> received this email in error, please notify the sender immediately
> and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
> must not use, retain or disclose any information contained in this
> email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
> not necessarily represent those of the Bangor University.
> Bangor University does not guarantee that this email or
> any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
> expressly stated in the body of the text of the email, this email is
> not intended to form a binding contract - a list of authorised
> signatories is available from the Bangor University Finance
> Office. www.bangor.ac.uk


Beyond Hotmail — see what else you can do with Windows Live Find out more!

Share your photos with Windows Live Photos – Free Find out more!