Annwyl gyfeillion, Gobeithio bod pawb wedi cael cyfle i chware ychydig yn yr eira! Wedi cael cais i gyfieithu "How to Guides" a meddwl tybed a oes gan rywun enw da? Roedden ni'n meddwl falle "Canllawiau Esbonio" neu hyd yn oed jyst "Canllawiau"? Mae 'nghydweithwraig i wedi canfod "Canllawiau Sut i" yn rhywle ond doeddwn i ddim yn keen... Diolch am bob cymorth, Osian