Ymddiheuriadau dwys am yr oedi mewn gyrru’r fersiwn Gymraeg o’r neges yma allan.
Y CYFNOD SYLFAEN PROFIADAU DYSGU YN YR AWYR AGORED
Canolfannau yng Nghymru yn ystod Mawrth ac Ebrill
Mae CyMAL wedi derbyn gwahoddiad oddi wrth Adran Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau i redeg stondin arddangos yn eu cynadleddau Cyfnod Sylfaen Profiadau Dysgu Yn Yr Awyr Agored. Mae’r Adran hefyd yn awyddus i gael cynrychiolaeth leol yn y digwyddiadau yma. Mae rhestr lawn o ddyddiadau a lleoliadau ac Awdurdodau Lleol maent yn eu targedu ar gael isod.
Mae hyn yn gyfle i amgueddfeydd i ddatblygu eu mannau awyr agored i gefnogi gweithgareddau dysgu cyfnod sylfaen ag i wneud cysylltiadau gyda phartneriaethau newydd.
Mae’n cyflwyno cyfle i gyfathrebu a datblygu cysylltiadau nid yn unig gydag ymarferwyr yn y maes, ond hefyd gydag arddangoswyr eraill sydd â diddordeb mewn cefnogi trosglwyddiad y Cyfnod Sylfaen.
Mae’r gwahoddiad i redeg stondin ym “Marchnad” yr ardal arddangosfeydd. Mae’r ardal yma yn cynnwys arddangoswyr sydd â photensial i helpu ymarferwyr yn y maes (Athrawon, Cynghorwyr Blynyddoedd Cynnar ac Athrawon Ymgynghorol) i ddwyn ymlaen y Cyfnod Sylfaen. Mae’n cynnwys arddangoswyr sydd â diddordeb mewn defnyddio ardaloedd awyr agored ar gyfer dysgu.
Mae’r gyfres o gynadleddau eu hunain wedi eu targedu at ymarferwyr ym maes y Cyfnod Sylfaen (mae’n fwy na thebyg tua 3 o bob Awdurdod Lleol) gyda’r ffocws ar sut i ddefnyddio’r awyr agored i weithredu’r Cyfnod Sylfaen. Bydd Grwpiau Theatr yn cynnal gweithgareddau o gwmpas llythrennedd, rhifogrwydd, dysgu trwy wrthrych, datblygiad creadigol a.y.b.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal stondin ar unrhyw o’r dyddiadau isod, cysylltwch gyda Helen Lyall Williams [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>, ffon: 01970 610 233 neu Velma Hather [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>, ffon: 01970 610244
DYDDIADAU A LLEOLIADAU:
Dyddiad: 24 Mawrth
Lleoliad: Court Colman Manor, Pen-y-bont ar Ogwr
Awdurdod Lleol: Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili
Dyddiad: 25 Mawrth
Lleoliad: Court Colman Manor, Pen-y-bont ar Ogwr
Awdurdod Lleol : Sir Fynwy, Casnewydd
Dyddiad: 26 Mawrth
Lleoliad: Court Colman Manor, Pen-y-bont ar Ogwr
Awdurdod Lleol : Powys, Caerdydd
Dyddiad : 31 Mawrth
Lleoliad : Court Colman Manor, Pen-y-bont ar Ogwr
Awdurdod Lleol : RCT, Bro Morgannwg, Merthyr Tydfil
Dyddiad : 1 Ebrill
Lleoliad : Court Colman Manor, Pen-y-bont ar Ogwr
Awdurdod Lleol : Abertawe, Chastell-nedd Port Talbot , Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad : 2 Ebrill
Lleoliad : Court Colman Manor, Pen-y-bont ar Ogwr
Awdurdod Lleol : Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin
Dyddiad : 29 Ebrill
Lleoliad : Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Wrecsam
Awdurdod Lleol : Ddinbych, Wrecsam, Fflint
Dyddiad : 30 Ebrill
Lleoliad : Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Wrecsam
Awdurdod Lleol : Conwy, Gwynedd, Ynys Môn
Velma Hather
Swyddog Mynediad, Dysgu a TGCh - Access Learning & ICT Officer
CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru - CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Welsh Assembly Government
Uned 10, Parc Gwyddoniaeth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH.
Unit 10, Science Park, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH.
Ffon/Tel: 01970 610244
Ffacs/Fax: 01970 610223
Rhif GTN/GTN No: 7 2846 0244
e-bost/e-mail: [log in to unmask]