Ymddiheuriadau dwys am yr oedi mewn gyrru'r fersiwn Gymraeg o'r neges yma allan. Y CYFNOD SYLFAEN PROFIADAU DYSGU YN YR AWYR AGORED Canolfannau yng Nghymru yn ystod Mawrth ac Ebrill Mae CyMAL wedi derbyn gwahoddiad oddi wrth Adran Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau i redeg stondin arddangos yn eu cynadleddau Cyfnod Sylfaen Profiadau Dysgu Yn Yr Awyr Agored. Mae'r Adran hefyd yn awyddus i gael cynrychiolaeth leol yn y digwyddiadau yma. Mae rhestr lawn o ddyddiadau a lleoliadau ac Awdurdodau Lleol maent yn eu targedu ar gael isod. Mae hyn yn gyfle i amgueddfeydd i ddatblygu eu mannau awyr agored i gefnogi gweithgareddau dysgu cyfnod sylfaen ag i wneud cysylltiadau gyda phartneriaethau newydd. Mae'n cyflwyno cyfle i gyfathrebu a datblygu cysylltiadau nid yn unig gydag ymarferwyr yn y maes, ond hefyd gydag arddangoswyr eraill sydd â diddordeb mewn cefnogi trosglwyddiad y Cyfnod Sylfaen. Mae'r gwahoddiad i redeg stondin ym "Marchnad" yr ardal arddangosfeydd. Mae'r ardal yma yn cynnwys arddangoswyr sydd â photensial i helpu ymarferwyr yn y maes (Athrawon, Cynghorwyr Blynyddoedd Cynnar ac Athrawon Ymgynghorol) i ddwyn ymlaen y Cyfnod Sylfaen. Mae'n cynnwys arddangoswyr sydd â diddordeb mewn defnyddio ardaloedd awyr agored ar gyfer dysgu. Mae'r gyfres o gynadleddau eu hunain wedi eu targedu at ymarferwyr ym maes y Cyfnod Sylfaen (mae'n fwy na thebyg tua 3 o bob Awdurdod Lleol) gyda'r ffocws ar sut i ddefnyddio'r awyr agored i weithredu'r Cyfnod Sylfaen. Bydd Grwpiau Theatr yn cynnal gweithgareddau o gwmpas llythrennedd, rhifogrwydd, dysgu trwy wrthrych, datblygiad creadigol a.y.b. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal stondin ar unrhyw o'r dyddiadau isod, cysylltwch gyda Helen Lyall Williams [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>, ffon: 01970 610 233 neu Velma Hather [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>, ffon: 01970 610244 DYDDIADAU A LLEOLIADAU: Dyddiad: 24 Mawrth Lleoliad: Court Colman Manor, Pen-y-bont ar Ogwr Awdurdod Lleol: Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili Dyddiad: 25 Mawrth Lleoliad: Court Colman Manor, Pen-y-bont ar Ogwr Awdurdod Lleol : Sir Fynwy, Casnewydd Dyddiad: 26 Mawrth Lleoliad: Court Colman Manor, Pen-y-bont ar Ogwr Awdurdod Lleol : Powys, Caerdydd Dyddiad : 31 Mawrth Lleoliad : Court Colman Manor, Pen-y-bont ar Ogwr Awdurdod Lleol : RCT, Bro Morgannwg, Merthyr Tydfil Dyddiad : 1 Ebrill Lleoliad : Court Colman Manor, Pen-y-bont ar Ogwr Awdurdod Lleol : Abertawe, Chastell-nedd Port Talbot , Pen-y-bont ar Ogwr Dyddiad : 2 Ebrill Lleoliad : Court Colman Manor, Pen-y-bont ar Ogwr Awdurdod Lleol : Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin Dyddiad : 29 Ebrill Lleoliad : Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Wrecsam Awdurdod Lleol : Ddinbych, Wrecsam, Fflint Dyddiad : 30 Ebrill Lleoliad : Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Wrecsam Awdurdod Lleol : Conwy, Gwynedd, Ynys Môn Velma Hather Swyddog Mynediad, Dysgu a TGCh - Access Learning & ICT Officer CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru - CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales Llywodraeth Cynulliad Cymru - Welsh Assembly Government Uned 10, Parc Gwyddoniaeth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH. Unit 10, Science Park, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH. Ffon/Tel: 01970 610244 Ffacs/Fax: 01970 610223 Rhif GTN/GTN No: 7 2846 0244 e-bost/e-mail: [log in to unmask] The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet virus scanning service supplied by Cable&Wireless in partnership with MessageLabs. (CCTM Certificate Number 2006/04/0007.) On leaving the GSi this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes. Cafodd fersiwn gwreiddiol y neges e-bost hon ei sganio gan wasanaeth gwrthfeirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSI) a ddarparwyd gan Cable&Wireless mewn partneriaeth â MessageLabs. (Rhif Tystysgrif CCTM 2006/04/0007). Wrth adael y GSI nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSI yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.