Print

Print


Onid yw cael cyfathrach rywiol gyda rhywun sy’n iau nag 16 oed eisoes yn anghyfreithlon?

 

Hefyd, beth yw ystyr “under 13/16 year olds”?

 

A yw’r awdur yn ceisio dweud “Does the Government intend to treat as criminals young people between 13 and 16 years old who have sexual relationships with one another (i.e. not with people older than 16)?

 

Fyddai modd gofyn i’r cwsmer?

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 18 January 2009 20:27
To: [log in to unmask]
Subject: Re: criminalise

 

Be hoffwn i ei wybod ydi - oes yna wahaniaeth rhwng troseddoli (to criminalise) ac anghyfreithloni (to make illegal) ?   Dyma'r frawddeg sy gen i - Is the Government trying to criminalise sexual relationships involving under 13/16 year olds? 

 

Geraint

 

Yr ateb ydi 'na', gyda llaw.

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Ann Corkett

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Sunday, January 18, 2009 12:56 PM

Subject: Re: criminalise

 

Holodd rhywun ynghylch "decriminalise ar 14.11.08, gan ddyfynu TermCymru.  Yr unig ateb oedd gan John Puw, a ddywedodd mai dad-droseddoli oedd yn ei gof cyfieithu yntau hefyd.

 

Mae gan Robyn Lewis "dad-griminaleiddio / dad-droseddoli" a "criminaleiddio / troseddoli".  Nodir yr ystyr fel "gwneud gweithred anghyfreithlon yn gyfreithlon" a'r gwrthwyneb.  Mae'n gwestiwn a fyddai'r rhain yn gwneud y tro ar gyfer ystyr arall "criminalise", sef trin rhywun fel troseddwr, neu ei droi'n droseddwr.

 

Ann

 

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Geraint Lovgreen

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Sunday, January 18, 2009 12:31 PM

Subject: criminalise

 

Help, os gwelwch yn dda, gan rywun sy'n dallt y byd cyfreithiol.

 

Ydi criminalise yr un peth ag anghyfreithloni? Ynta oes isio rhyw derm fel 'troseddoli' (does na ddim byd yn GyA, ond dwi'n sylwi bod dad-droseddoli yn TermCymru am decriminalise, efo statws 4 )



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.10.8/1899 - Release Date: 17/01/2009 17:50