Dw i'n cytuno – mae'n gas gen i weld symbolau fel hyn yng nghanol testun mewn unrhyw iaith – mae fel petai pobl yn meddwl ei fod o'n gwneud rhywbeth yn cŵl – yn enwedig mewn sloganau ac enwau prosiectau ac ati.
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 18 January 2009 20:04
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: @
Helo Annes,
Dwi ddim yn meddwl ei fod o'n dderbyniol - "at" ydio ac nid "in" (ond gall "at" fod ag ystyr tebyg i "in" - h.y. yn Saesneg dywedir "at school" yn ogystal ag "in school") . I mi, fyswn i'n methu darllen y symbol fel dim byd ond "at", felly am wn i gellid ei ddefnyddio mewn brawddeg fel "anfon llythyr @ Annes", ond mi fysa'n beth ecsentrig braidd i'w wneud. Mae erthygl ddiddorol yn Wicipedia dan "at sign", lle dywedir mai cyfleu'r Rhyngrwyd y mae'r symbol yn y rhelyw o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg: "In Welsh it is sometimes known as a malwen or malwoden (a snail)."
Tra'n bod ni'n sôn am symbolau, ma'n gas gen i weld yr ampersand (&) yn cael ei ddefnyddio yn Gymraeg. I fi eto, symbol am y gair "and" ydio ac nid am y cysyniad "a/ac". O edrych eto ar Wicipedia, mae ei wreiddiau'n amlwg a heb fod yn perthyn i'r Gymraeg o gwbl.
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">annes gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Sunday, January 18, 2009 7:00 PM
Subject: @
Mae'r symbol yma'n aml yn cael ei ddefnyddio yn lle deud at neu in - ydi'n dderbyniol ei ddefnyddio yn Gymraeg gan gymryd ei fod yn golygu'r un peth ta nacydi? Diolch
Annes