Print

Print


Dydi Peter Wynn Thomas ddim yn gwahaniaethu rhwng y ddwy ffurf yn ei 
Ramadeg.

"Gwneud i ychydig fynd yn bell" faswn i'n ddweud. Mae blas ychydig yn fwy 
ffurfiol/llenyddol ar "ymhell" i mi. Ar ddechrau brawddeg y baswn i'n tueddu 
i'w ddefnyddio - "Ymhell, bell i ffwrdd..."

Geraint

----- Original Message ----- 
From: "SIAN ROBERTS" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, January 09, 2009 12:34 AM
Subject: Re: to make a little go a long way


A! Beth yw'r gwahaniaeth rhwng "ymhell" ac "yn bell"?  Fe wnes i edrych yng 
Ngeiriadur yr Academi cyn anfon gan nad oeddwn i'n siwr ac mae hwnnw'n dweud 
"to go far: mynd ymhell, mynd yn bell" felly fe ddewisais i'r un y byddwn 
i'n ei ddweud.


Siân

--- On Thu, 8/1/09, Mary Jones <[log in to unmask]> wrote:

> From: Mary Jones <[log in to unmask]>
> Subject: Re: to make a little go a long way
> To: [log in to unmask]
> Date: Thursday, 8 January, 2009, 9:12 PM
> 'Ymhell', yn hytrach nag 'yn bell'.
> Mary
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology
> and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
> On Behalf Of SIAN ROBERTS
> Sent: 07 January 2009 14:48
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: to make a little go a long way
>
> Mae'n siwr bod 'na ryw ddywediad sy'n cyfleu
> ystyr y frawddeg wreiddiol yn union. Fel arall, wela i ddim
> o'i le â "gwneud i ychydig fynd yn bell".
>
> Yng nghyd-destun pryd o fwyd, byddai fy mam yn sôn am
> "wneud iddo fe fystyn" (ymestyn) a chlywais rywun
> arall yn canmol gwraig a allai wneud "pryd da o goes
> las" - eto nid yn union yr un peth.
>
> Siân
>
> --- On Wed, 7/1/09, CATRIN ALUN
> <[log in to unmask]> wrote:
>
> > From: CATRIN ALUN <[log in to unmask]>
> > Subject: Re: to make a little go a long way
> > To: [log in to unmask]
> > Date: Wednesday, 7 January, 2009, 12:31 PM
> > Llunio'r wadn fel bo'r droed
> >
> > Ddim cweit yr un fath - ond mae 'na debygrwydd -
> falle
> > bod hwn yn fwy o 'living within one's
> means'
> >
> > Catrin
> >
> >
> >
> > ________________________________
> > From: Claire Richards <[log in to unmask]>
> > To: [log in to unmask]
> > Sent: Wednesday, 7 January, 2009 11:54:00 AM
> > Subject: to make a little go a long way
> >
> >
> > Dwi’n
> > siŵr bod ‘na ymadrodd Cymraeg sy’n cyfateb i hyn,
> ond
> > alla i
> > ddim meddwl beth yw e.  All rhywun arall ddweud wrtha
> i?
> >
> > Diolch.
> > Claire
> >
> > Mae
> > Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru
> yng
> > Nghymru a Lloegr o dan y
> > rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa
> gofrestredig
> > yw 53 Heol yr
> > Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.
> >
> > Pennawd
> > Cyf is a limited company registered in England and
> Wales
> > under the number
> > 4276774, and the address of the registered office is
> 53
> > Station Road, Llandaff
> > North, Cardiff, CF14 2FB.