----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">annes gruffyddTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Friday, January 23, 2009 9:44 PMSubject: Re: star signNa fasa, ella, ond y peth pwysig i mi yn y darn yma ydi ei fod yn hawdd ei ddeall - mae pawb yn gyfarwyddd ag Aquarius yn y Lladin a wela i ddim byd o'i le ar ddal i ddefnyddio'r LLadin. Defnyddied pobol eraill be fynnon nhw. Fasa'n well gen i tasa'r Eidalwyr yn defnyddio'r LLadin, tydyn nhw ddim, ond dal i'w defnyddio wna i. Tasa Cariwr Dwr ne Dyfrwr yn dilyn Sidydd yn y pwt bach yma dwi'n ei wneud fasa gin neb run obadeia be oedd dim ohono'n ei feddwl. Felly o leia mae Aquarius yn nabodadwy. I mi'r peth wysig ydi bod pobol yn gwbod ne'n deall am be dwi'n son.Annes2009/1/23 <[log in to unmask]>
Mae enwau traddodiadol am arwyddion y Sidydd, fuasai hi'n ormod o ymdrech i bobol sylweddoli mai'r Dyfrwr (etc) ydy Aquarius?
(Neges gan un a aned dan arwydd Acwarius) :)
Paul.Paul W. Birt, PhD
Chaire d'Études celtiques,
Université d'Ottawa,
70, rue Laurier,(131)
Ottawa,
K1N 6N5
Ontario
Canada
www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
Tél. (613)562-5800(3767)
Téléc/Fax (613)562-5138.
From: annes gruffydd
Date: Fri, 23 Jan 2009 19:55:43 +0100 Subject: Re: star sign
Dyna stori ddifyr - diolch, Er na dwi rioed wedi clwad son am Sidydd mi fydd yr ystyr yn ddigon amlwg ddyliwn gan fod Aquarius yn dod yn syth ar ei ol o - ac ydw, dwi'n mynd i adael Aquarius fel y mae o gan mai gair Lladin ydi o.Annes2009/1/23 Megan Tomos <[log in to unmask]>
Dwi'n meddwl y dylen ni ddefnyddio'r gair Sidydd. Roedd yn eitha cyfarwydd i bobl unwaith. Mae grat lechi ym Mhentir ac arwyddion y Sidydd arni yn ogystal â manylion taith comed yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn Gymraeg mae popeth ar hon, os dwi'n cofio'n iawn. Cyn-chwarelwr, Arfonwyson, a anfonodd gynllun y grat i'w chwaer pan oedd honno'n priodi ac eisiau rhyw gynllun gwahanol i'r grat yn ei chartref newydd. Llun Pont y Borth sydd ar grat led cae o fan hyn. Roedd Arfonwyson yn gweithio yn Grenwich yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r sęr oedd ei ddiddoreb mawr.
Os ydi'r gwaith yn anffurfiol iawn, pam na roi di'r Saesneg mewn cromfachau.
Megan
Date: Fri, 23 Jan 2009 14:19:18 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: star sign
To: [log in to unmask]
H.y. taurus etc etc - be ydi'r ffordd fwya dealladwy o ddeud hyn y Gymraeg? taswn i'n gweld arwydd Sidydd fasa gin i ddim syniad be oedd o. Ga i ddeud arwydd seren? Na chaf, dio'm yn swnio'n iawn. Arwydd seryddol? O twt, ma hi'n bnawn Gwenar a dwi di blino. Peth eitha anffurfiol ydi'r darn yma gyda llaw, jyst isio iddo fod yn ddealladwy ac yn gywir. DiolchAnnes
Windows Live Hotmail just got better. Find out more!
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.10.13/1912 - Release Date: 23/01/2009 18:54