Print

Print


Dyma'r math o ddarganfyddiad sy'n gyrru ias i lawr fy nghefn:

Pan ffoniais Archifdy Gwynedd i ofyn am sgwrs a John Dilwyn Williams, 
Steffan ab Owain a atebodd y ffon, a digwyddodd o fod yn yr un ystafell yn 
gwrando ar ben arall y sgwrs.

Neithiwr, aeth Bruce a finnau trwy'r gwynt a'r glaw i'r Blaenau, i gyfarfod 
o'r Gymdeithas Hanes, ac 'roedd Steffan yno.  Wrth i bobl hel i ymadael, 
daeth ataf i.  'Rwyf wedi gofyn iddo roi'r hyn a ddywedodd mewn neges 
e-bost, ond dyna'r hyn 'dw i'n ei gofio:
'Roedd o allan mewn cwch unwaith efo ffrind, yn enedigol o Drefor, ac wrth 
iddynt gyrraedd rhyw le arbennig, pwyntiodd y cyfaill at Fynydd Caerguwch 
(wel, am a wn i!) a dweud wrtho fod yr hen bysgotwyr wedi'i ddefnyddio fel 
arwydd mor er mwyn dod yn ddiogel trwy "Sianel Bron y Ferch".

Tybed a oedd yr hen bysgotwyr yn llai parchus eu hiaith na ffermwyr y wlad?

Biti na all Cymdeithas y Cyfieithwyr drefnu cynhadledd yn y Nant, gyda 
thaith prynhawn ar gwch, inni i gyd gael ystyried y mater!

Ann
----- Original Message ----- 
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 21, 2009 12:58 PM
Subject: Re: Tit Mountain


Dywedodd John Dilwyn Wms, os cofiaf yn iawn, mai enw arall ar y Mynydd oedd
"Moel" - efallai na wnes i egluro hynny'n iawn yn fy neges - 'doedd *o* beth
bynnag ddim yn cyfeirio at *ddau* le.
Ann
----- Original Message ----- 
From: "SIAN ROBERTS" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 21, 2009 12:47 PM
Subject: Re: Tit Mountain


Wel, dyma i chi ryfedd:

Y Gwyddoniadur:

"Eifl, Yr    Mynydd
Mae mynyddoedd yr Eifl - yr Eifl ei hunan (564m), Moel Carn Guwch (359m) a
Thre'r Ceiri (485m) - yn gadwyn sy'n codi'n syth o'r mor ac mae hynny,
ynghyd a'r tri chopa pigfain, yn rhoi'r argraff eu bod yn fynyddoedd uwch
nag ydynt mewn gwirionedd."

Ydi hyn yn iawn?
Go brin bod yna Mynydd Carnguwch a Moel Carn Guwch mor agos at ei gilydd.
Mae Thomas Pennant yn amlwg yn cyfeirio at Mynydd Carnguwch (i'r de o Dre'r
Ceiri) fel Moel Carn Guwch.

Geraint, ar y sillaf cynta mae'r acen a does dim "ng" - Carguwch.
Mae 'na ffarm gerllaw o'r enw "Penfras" - "Pefras" ar lafar.



--- On Wed, 21/1/09, Gorwel Roberts <[log in to unmask]> wrote:

> From: Gorwel Roberts <[log in to unmask]>
> Subject: Re: Tit Mountain
> To: [log in to unmask]
> Date: Wednesday, 21 January, 2009, 11:28 AM
> 'Carn Guwch' yw'r mynydd
>
> 'Carnguwch' yw'r ardal mae'n debyg
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology
> and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
> Geraint Lovgreen
> Sent: 21 January 2009 10:52
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Tit Mountain
>
> Gorwel, wyt ti mewn lleiafrif o un fama!
> Os mai'r acen sy'n dy boeni, meddylia am Gaerdydd.
> Os mai'r 'ng' yn y canol
> ydi'r broblem, meddylia am Fangor.
>
> Dyna ni rwan.
>
> Ger
>
> ----- Original Message ----- 
> From: "Gorwel Roberts"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, January 21, 2009 8:30 AM
> Subject: Re: Tit Mountain
>
>
> Na, all Carnguwch ddim bod yn un gair. Dau air yw Carn
> Guwch neu mae'r
> ynganiad yn wirion bost
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology
> and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
> Ann Corkett
> Sent: 20 January 2009 18:57
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Tit Mountain
>
> Dyna ffodus i gael y fath gysylltiadau yn gymorth imi.
>
> 'Rwyf newydd anfon yr awgrym isod at yr awdur (ond mi
> newidiaf "Carnguwch"
> yn un gair eto):
> "The distinctive breast-shaped hillside of Mynydd Carn
> Guwch is sometimes,
> it is said, aptly referred to as Bron y Ferch (the
> Girl's Breast)."
>
>
>
> Casglaf yr holl negeseuon hyn at ei gilydd a'u hanfon
> at Hywel Wyn Owen. Os
> caf ymateb ffafriol ganddo, efallai gallwn ni dynnu'r
> "it is said" o'r
> proflenni.
>
>
>
> Ann
>
> ----- Original Message ----- 
> From: "Inc Cyfieithu Translations"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, January 20, 2009 6:28 PM
> Subject: Re: Tit Mountain
>
>
> Mi rwyt ti'n iawn, Annes.  Mae Geraint (Twm) Trefor yn
> honni mai o'r
> gair 'gafl' y daw yr Eifl, sy'n cyd-fynd am wn
> i efo Bron y Ferch.
>
> Mae fy nheulu wedi ffermio Carnguwch ers cenedlaethau a
> chlywais i yr un
> ohonyn nhw yn galw'r mynydd yn ddim ond Mynydd
> Carnguwch (un gair, nid
> dau).  Dyna fyddai fy mam yn ei alw hefyd.  Cafodd hi ei
> magu ar fferm
> gyfagos.
>
> Ond roedd dylanwad Methodistiaeth Galfinaidd yn drwm ar
> Llithfaen gan
> mlynedd a mwy yn ol a synnwn i ddim na fyddai'r
> colofnau'r achos  yn
> gwaredu  at unrhyw enw  efo cysylltiadau rhywiol .  Byddai
> galw mynydd
> yn Bron y Ferch yn anathema.
>
> Gyda llaw, mae mynwent Eglwys Carnguwch yn llawn erbyn hyn.
>  Fy modryb,
> a fu farw fis Mehefin y llynedd ac yn un o'r teulu yr
> adeiladwyd yr
> Eglwys ar eu tir, fydd y dwytha i'w chladdu yno os na
> chaiff y fynwent
> ei helaethu.
>
> Wil
>
> annes gruffydd wrote:
> > O sbio ar y llun wedyn, ella'i fod yn dibynnu o ba
> ochor mae rhywun yn
> > edrach arno fo, mae gan y mynydd dwi'n son amdano
> fo deth. Dan ni'n
> > mynd i ddyfroedd dyrys rwan - eith hi fath a'r
> gyfres o negeseuon
> > cunnilingus os na watsiwn ni - a gawn ni weld pwy
> atebith y neges yma!!!
> >
> > Annes
> >
> > 2009/1/20 annes gruffydd <[log in to unmask]
> > <mailto:[log in to unmask]>>
> >
> >     Sori Ann fedra i ddim bod yn siwr - dim ond, fel
> deudais i, na'r
> >     un dwi'n son amdano ydi'r un ar y chwith
> cyn croesi'r Eifl. Ella
> >     bod na fynyddoedd eraill ym Mhen Llyn sy'n
> fronna merched, dwn i ddim.
> >
> >     Annes
> >
> >     2009/1/20 Ann Corkett <[log in to unmask]
> >     <mailto:[log in to unmask]>>
> >
> >         Diolch yn fawr, Annes - mae fy NGHOF i'n
> mynd mor bell yn ol
> >         ag edrych i lawr ar fy mrest ac yn meddwl
> tybed pryd y ddo^n nhw!
> >
> >         'Dw i'n meddwl bod 'na ddigon o
> dystiolaeth erbyn hyn i newid
> >         y frawddeg i rywbeth fel:
> >         "The distinctive breast-shaped hillside
> of Mynydd Carn Guwch
> >         is sometimes aptly referred to as /Bron y
> Ferch/."
> >
> >         Dyma lun o'r mynydd dan sylw:
> >
> >
> >             ----- Original Message -----
> >             *From:* annes gruffydd
> <mailto:[log in to unmask]>
> >             *To:* [log in to unmask]
> >
> <mailto:[log in to unmask]>
> >             *Sent:* Tuesday, January 20, 2009 5:09 PM
> >             *Subject:* Re: Tit Mountain
> >
> >             Un o Langwnad oedd mam - nid yn union wrth
> droed y mynydd
> >             hwnnw, ond yn ddigon agos. Fedra i ddim
> gofyn iddi ai enw
> >             safonol oedd hwnnw gan ei bod, fel y
> gwyddost, 'wedi mynd
> >             i le gwell'. Dwi newydd ffonio Kit,
> gweddw Gruffudd Parry
> >             ac mi ddeudodd hi heb flewyn ar dafod, yn
> ddi-amau, mai
> >             Bron y Ferch ydi enw'r mynydd.
> >
> >             Annes
> >
> >             ON Dwi'n meddwl ei fod yn enw tan gamp
> achos mae'n union
> >             fel bron merch ifanc - o na baem yn cofio
> sut olwg oedd ar
> >             fron merch ifanc - henaint ni ddaw ei
> hunan!
> >
> >             2009/1/20 Ann Corkett
> <[log in to unmask]
> >             <mailto:[log in to unmask]>>
> >
> >                 Diolch i chi'ch dau - Gwelaf Un
> cyfeiriad at "Scowling
> >                 Mountain" ar y We, ond mae
> hynny'n amlwg yn
> >                 lled-gyfieithiad.
> >
> >                 Af ar ol y Ganolfan eto. Rhaid im ddod
> at wraidd y
> >                 "Ma^m Wlad" hon, gan y
> gallai fod angen ail-deitlo'r
> >                 print.
> >
> >                 Pam yn y byd mae'r tiwtoriaid, fel
> 'dw i'n amau, yn
> >                 parhau'r enw Saesneg yn lle
> defnyddio'r cyfle i son am
> >                 ystyron y gair Cymraeg
> "bron"?
> >
> >                 Ann
> >
> >                     ----- Original Message -----
> >                     *From:* Gorwel Roberts
> >
> <mailto:[log in to unmask]>
> >                     *To:*
> [log in to unmask]
> >
> <mailto:[log in to unmask]>
> >                     *Sent:* Tuesday, January 20, 2009
> 3:01 PM
> >                     *Subject:* Re: Tit Mountain
> >
> >                     "Carn Guwch" yn ôl y
> Gazetteer
> >
> >
> >
> >
> ------------------------------------------------------------------------
> >
> >                     *From:* Discussion of Welsh
> language technical
> >                     terminology and vocabulary
> >
> [mailto:[log in to unmask]
> >
> <mailto:[log in to unmask]>] *On
> >                     Behalf Of *Rhian Jones
> >                     *Sent:* 20 January 2009 14:56
> >                     *To:*
> [log in to unmask]
> >
> <mailto:[log in to unmask]>
> >                     *Subject:* Re: Tit Mountain
> >
> >
> >
> >                     Helo Ann
> >
> >                     Mynydd Carnguwch ydi enw'r
> mynydd. Dw i wedi holi
> >                     ffrind i mi sydd wedi'i magu
> ar odre'r mynydd a
> >                     does yna ddim enw arall arno fo
> medde hi. Mae gen
> >                     i fab sy'n galw'r lle yn
> Tit Mountain pan mae o
> >                     efo'i ffrindiau, ond 14 oed
> ydyn nhw!!!
> >
> >                     Rhian
> >
> >
> ------------------------------------------------------------------------
> >
> >                     No virus found in this incoming
> message.
> >                     Checked by AVG -
> http://www.avg.com
> >                     <http://www.avg.com/>
> >                     Version: 8.0.176 / Virus Database:
> 270.10.10/1903
> >                     - Release Date: 19/01/2009 20:52
> >
> >
> >
> ------------------------------------------------------------------------
> >
> >             No virus found in this incoming message.
> >             Checked by AVG - http://www.avg.com
> <http://www.avg.com/>
> >             Version: 8.0.176 / Virus Database:
> 270.10.10/1903 -
> >             Release Date: 19/01/2009 20:52
> >
> >
> >
> >
> ------------------------------------------------------------------------
> >
> >
> > No virus found in this incoming message.
> > Checked by AVG - http://www.avg.com
> > Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.10.10/1904 -
> Release Date:
> > 20/01/2009 07:49
> >
> >
>
>
> ----------------------------------------------------------------------------
> ----
>
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.10.10/1903 - Release
> Date: 19/01/2009
>
> 20:52


--------------------------------------------------------------------------------



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.10.10/1906 - Release Date: 21/01/2009
07:07


--------------------------------------------------------------------------------



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.10.10/1906 - Release Date: 21/01/2009 
07:07