Sent from my BlackBerry® wireless device
Ga’i ofyn barn pobl am rywbeth sy’n codi’n aml. Yn Saesneg, er mwyn osgoi cyfeirio at y gwrywaidd neu’r benywaidd yn benodol, mae’n arfer erbyn hyn i bobl droi at y lluosog e.e. any good parent would wish this for their own child. Fyddwch chi’n dilyn yr un drefn yn Gymraeg? Dw i’n tueddu i gadw at yr unigol a rhoi ‘’ei blentyn ei hun’ ond dw i’n gweld mwy a mwy o enghreifftiau o ddilyn patrwm sy’n amlwg yn weddol dderbyniol yn Saesneg erbyn hyn.
Carolyn