Cytuno Geraint - dyna awgrymais i awr neu ddwy'n ol dw i'n meddwl ond dw i wedi drysu erbyn hyn! -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen Anfonwyd/Sent: 03 December 2008 20:37 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: non-owner occupied housing tai nad ydynt yn eiddo i'w preswylwyr. ----- Original Message ----- From: "carolyn" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, December 03, 2008 8:35 PM Subject: ATB: non-owner occupied housing Ond statws 4/5 sydd i feddiannu yn yr ystyr 'occupy' yn Nherm Cymru Muiris, felly dw i ddim yn gweld sut y gelli di ddweud mai dyna'r gair technegol cywir. Fy nadl i yw nad yw'n dechnegol gywir - mae ystyr meddiannu'n wahanol i 'fyw yn rhywle' - mae'n weithredol ac yn golygu 'cipio meddiant'. -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Muiris Mag Ualghairg Anfonwyd/Sent: 03 December 2008 20:26 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: non-owner occupied housing Gallaf i weld problemau gyda'r ddau gynnig hynny, sef, gall fod nifer o 'preswylwyr sydd ddim yn berchnogion' yn byw yn y ty yn ogystal â'r perchennog, a byddai'r cyfieithiad hwn yn eu cynnwys hwy hefyd, mae'r un peth yn wir am yr ail gynnig. Deallaf y broblem gyda 'meddiannu, meddiant' ac ati ond mae'n amlwg mai dyna'r gair/geiriau technegol cywir yn y cyd-destun. 2008/12/3 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>: > "tai â phreswylwyr sydd ddim yn berchenogion" felly? > neu "tai â phreswylwyr gwahanol i'r perchenogion"