Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, ceir gair 'Amherchennog' 'Un nad yw'n berchennog, gwarcheidwad dros eiddo arall'. Mae Termcymru'n rhoi 'perchen-feddiannydd' ar gyfer 'owner-occupier', Tybed felly a fyddai modd creu'r term 'Amherchennog-Feddiannydd' ar gyfer 'Non-Owner Occupier'? Wedi edrych yn yr Offerynnau Statudol rwy'n gweld mai 'fflatiau ... wedi'u perchen-feddiannu' yw 'Owner-occupied flats' felly, a fyddai modd creu, ar sail 'amherchennog', ffurf newydd sef 'wedi'i amherchen-feddiannu' ar gyfer 'non-owner occupied'? Muiris 2008/12/3 carolyn <[log in to unmask]>: > Ti'n iawn Muiris - fedra'i ddim meddwl am lawer gwell na 'tai nad yw'r deiliaid yn berchen arnynt' felly.= neu 'tai nad ydynt yn eiddo i'w deiliaid'. > > -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- > Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Muiris Mag Ualghairg > Anfonwyd/Sent: 03 December 2008 18:22 > At/To: [log in to unmask] > Pwnc/Subject: Re: ATB: non-owner occupied housing > > Oes, rhywun sy'n aros yn y tŷ ond heb fod yn denant, er enghraifft, os > yw'r perchennog wedi 'benthyg' y tŷ i ffrind dros dro heb ffurfio > tenantiaeth, neu sgwatwyr. > > 2008/12/3 Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]>: >> Ai'r ystyr yn y bôn yw mai tai ar rent yw'r rhain? Oes modd iddyn nhw fod yn >> rhywbeth arall? >> >> Carolyn >> >> >> >> ________________________________ >> >> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and >> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Melanie >> Davies >> Anfonwyd/Sent: 03 Rhagfyr 2008 16:23 >> >> At/To: [log in to unmask] >> Pwnc/Subject: non-owner occupied housing >> >> >> >> Grrrrrrrr - a all rhywun gynnig rhywbeth gwell i mi na 'tai nad ydynt (h.y. >> pobl benodol) yn berchen-ddeiliaid arnynt? >> >> >> >> Diolch yn fawr am unrhyw gynigion. >> >> >> >> Melanie >> >> >