Print

Print


Helo, Melanie,
 
Chi'n iawn, mae e ar yr un heol fach 'na a^ Trosol, sy'n arwain at y castell. Syniad da i ffonio Trosol - nes i ddim meddwl am hynny. Me'n rhyfedd mod i ddim yn medru gweld unrhywbeth yn y Gymraeg ar y we. Wi wedi teipio "Our Lady Queen Of Peace Castell Newydd Emlyn" mewn i Google hefyd, ond heb gael llwyddiant.
 
Meinir 

Melanie Davies <[log in to unmask]> wrote:
Helo Meinir,

Dydw i ddim yn siwr beth yw'r enw Cymraeg ond gallaf weld y man addoli yn fy
mhen - mae gerllaw swyddfa Trosol os ydw i'n gywir. Efallai y gall rhywun
yn y fan honno fynd i edrych i chi (neu efallai eu bod nhw'n gwybod ta
beth). Rhif y swyddfa yw 01239 710717.

Pob hwyl
Melanie

----- Original Message -----
From: "Meinir Thomas" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, December 04, 2008 9:06 AM
Subject: Our Lady Queen of Peace


Man addoli yng Nghastell Newydd Emlyn. Wi ofn ei gyfieithu'n llythrennol
rhag
ofn bod y cyfieithiad llythrennol yn anghywir. Methu'n lan a gweld
unrhywbeth
ar y we!

Oes rhywun yn gwybod yn iawn beth yw'r enw cywir yn y Gymraeg?

Diolch. :)

Meinir



MeinirAnnThomas