Mae yna rhai llefydd yn dal ar gael yn y gynhadledd yma - archebwch eich lle cyn y Nadolig!
Ymddiheuriadau os ydych wedi derbyn mwy nag un copi
Y Cyfnod Sylfaen - Cyfleoedd I Amgueddfeydd, Archifau A Llyfrgelloedd
Dyddiad y Digwyddiad: 02/02/09 yn Venue Cymru, Llandudno
A
10/02/2009 yn Gwesty Parc y Strade, Llanelli
Lleoedd sydd ar gael
40 yn mhob lleoliad
Amlinelliad
Y Cyfnod Sylfaen yw'r cwricwlwm newydd i blant 3 -7 oed. Mae'n cyfuno y Blynyddoedd Cynnar (3 -5 oed) a Chyfnod Allweddol 1 (5 -7 oed). Amcan y Cyfnod Sylfaen yw cyfoethogi'r profiadau dysgu sy'n galluogi plant i fod yn greadigol, defnyddio'u dychymyg a chael hwyl wrth ddysgu.
Nodau ac Amcanion
Nod y gweithdy yma yw:
Addas ar gyfer
Mae'r gynhadledd hon na chodir tâl amdani yn addas ar gyfer staff amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau sy'n ymwneud â gweithgareddau ar gyfer plant yn oedran y Cyfnod Sylfaen (3-7 oed), ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn trafod sut y gall y sector uchod weithio yn glos gyda addysg Blynnyddoedd Cynnar i gyflenwi'r meysydd dysgu yn y Cyfnod Sylfaen .
Bydd cynulleidfa gwadd o Gynghorwyr Blynyddoedd Cynnar, Cynghorwyr Cyfnod Sylfaen a Chydlynwyr Iaith a Chwarae yn bresennol. Bydd cyfle yn ogystal i weld stondinau arddangos a fydd yn tynnu sylw at amrhyw o sefydliadau sy'n ymwneud a dysgu a phlant ifanc yng Nghymru.
Fyddwch chi’n mor caredig ag anfon yr e-bost hwn ymlaen. Mae’r gwybodaeth ar gael ar wefan CyMAL http://www.cymru.gov.uk/cymal o dan Digwyddiadau Datblygiad Proffesiynol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â fi ar y cyfeiriad isod.
Velma Hather
Swyddog Mynediad, Dysgu a TGCh - Access Learning & ICT Officer
CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru - CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Welsh Assembly Government
Uned 10, Parc Gwyddoniaeth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH.
Unit 10, Science Park, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH.
Ffon/Tel: 01970 610244
Ffacs/Fax: 01970 610223
Rhif GTN/GTN No: 7 2846 0244
e-bost/e-mail: [log in to unmask]