Hwre! Caniedydd yr Ifanc, rhif 129
Am fy nghadw'n fyw drwy'r dydd,
Am dy roddion rhad a rhydd,
Am fendithion nef a llawr,
Derbyn ddiolch Arglwydd mawr.
Pan fo caddug nos yn cau,
Am fy mhabell fechan frau,
Yn dy freichiau tyner Di
Hyd y bore cadw fi.
Os caf weld y bore glas
Dyro nerth i foli'th ras,
A chysegru hyd yr hwyr
Oriau'r dydd i Ti yn llwyr.
H T Jacob sy' biau'r geiriau. Hwyrol Weddi ydy'r enw ar y dôn
Ydw i'n cael gwobr?!
Catrin
From: annes gruffydd <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Saturday, 29 November, 2008 5:54:19 PM
Subject: Re: When I lay me down to sleep
Ydi ar yr un alaw? Tydi sillafa ddim run fath
Annes
2008/11/29 Bethan Jones
<[log in to unmask]>
"Rhof fy mhen i lawr i gysgu
Rhof fy ngofal i Grist Iesu" dwi'n credu
Cofion cynnes
Bethan
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" ymailto="mailto:[log in to unmask]" target="_blank" href="mailto:[log in to unmask]">annes gruffydd
Sent: Saturday, November 29, 2008 4:39 PM
Subject: When I lay me down to sleep
Oes yna weddi Gymraeg ar yr alaw yma? yr alaw sy'n bwysig (darn o gerddoriaeth ar yr alaw sy dan sylw). Os oes, be ydi'r teitl ne'r llinell gynta plis? Diolch
Annes