Print

Print


Ynglŷn â nain a taid/mam-gu a tad-cu, rwy’n cofio clywed Peter Wynn Thomas yn esbonio mai nain a taid yw’r gorau fel rheol mewn cyd-destunau safonol pan fyddwch chi’n ysgrifennu ar gyfer Cymru gyfan.

 

Nid rhyw eiliad o wendid mewn gŵr o’r De oedd  hyn, ond yn hytrach gweld bod i nain a taid ffurf luosog.

 

 

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett
Anfonwyd/Sent: 27 Tachwedd 2008 19:57
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Granny annexe

 

'Rwyf wedi defnyddio "anecs" ac "atodiad" (er bod hynny'n swnio fel apendics Nain), ond mae sawl term sy'n addas.

 

O ran y "granny", mae Bruce yn meddwl y byddai rhoi "nain/mam-gu" (onnid oes heiffen?) yn iawn (ond pa air i'w roi'n gyntaf?). 

 

'Dw i wedi gweld cais cynllunio ar gyfer "grandpa annexe", ond fyddwn i ddim wedi meddwl bod rhaid bod mor fanwl gywir.  'Dw i'n amau y defnyddir "granny annexe" i olygu rhandy/penty/anecs/atodiad ar gyfer eich mam, eich tad, neu efallai hyd yn oed y ddau.  beth am e.e. "rhiant (rhieni?perthynas?) oedrannus"?

 

Ann

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Alwyn Evans

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Thursday, November 27, 2008 2:59 PM

Subject: Re: Granny annexe

 

'Penty' yw'r gair a ddefnyddid ar gyfer yr hen dy/gwt ar bendraw'r cowt lle byddai'r gwas ffarm yn byw os oedd ganddo deulu (gweison sengl yn y lloft stabal!).

Felly 'Penty nain' efallai, neu 'benty mamgu' i'r hwntws.

 

Alwyn



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.175 / Virus Database: 270.9.10/1813 - Release Date: 26/11/2008 08:53

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.9.11/1816 - Release Date: 27/11/2008 19:53