Mae'r canlynol yn ymddangos yn yr eirfa sydd ar wefan y Gymdeithas, os yw hyn o unrhyw help:
 
finite: the world's resources are f. - mae pen draw i adnoddau'r byd, nid yw adnoddau'r byd yn ddi-ben-draw/
ddiderfyn/ddihysbydd, ni ellir/nid oedd modd adnewyddu adnoddau'r byd, nid yw’n bosibl adnewyddu
adnoddau’r byd, nid yw adnewyddu adnoddau’r byd yn bosibl
 
 
Llinos

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 20 November 2008 12:22
To: [log in to unmask]
Subject: Re: finite

Dwi ddim yn meddwl - dydyn nhw ddim wedi terfynu, naddo? Mae cyfyngedig yn well, er nad yw'n golygu'n union yr un peth. Mae'n awgrymu nad oes llawer o fwynau, ond gall rhywbeth fod yn finite a bod llawer iawn ohono.
 
Rhyw air fel annibendraw sydd ei angen. Ond 'cyfyngedig' ydi'r gorau sydd gennon ni, dwi'n amau.
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Rhian Jones
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, November 20, 2008 10:14 AM
Subject: finite

Pa air sy'n cael ei ddefnyddio am 'finite' wrth sôn am fwynau, olew, nwy etc.? 'terfynedig'?
Diolch
Rhian 

______________________________________________________________________
This email has been scanned by the MessageLabs Email Security System.
______________________________________________________________________