Mae'r canlynol yn
ymddangos yn yr eirfa sydd ar wefan y Gymdeithas, os yw hyn o unrhyw
help:
finite: the world's resources are f. - mae pen draw i
adnoddau'r byd, nid yw adnoddau'r byd yn ddi-ben-draw/
ddiderfyn/ddihysbydd,
ni ellir/nid oedd modd adnewyddu adnoddau'r byd, nid yw’n bosibl
adnewyddu
adnoddau’r byd, nid yw adnewyddu adnoddau’r byd yn bosibl
Llinos
Dwi ddim yn meddwl - dydyn nhw ddim wedi terfynu, naddo? Mae cyfyngedig yn
well, er nad yw'n golygu'n union yr un peth. Mae'n awgrymu nad oes llawer o
fwynau, ond gall rhywbeth fod yn finite a bod llawer iawn ohono.
Rhyw air fel annibendraw sydd ei angen. Ond 'cyfyngedig' ydi'r gorau sydd
gennon ni, dwi'n amau.
Geraint
----- Original Message -----
Sent: Thursday, November 20, 2008 10:14
AM
Subject: finite
Pa air sy'n cael ei ddefnyddio am 'finite' wrth sôn am fwynau, olew, nwy
etc.? 'terfynedig'?
Diolch
Rhian
______________________________________________________________________
This
email has been scanned by the MessageLabs Email Security
System.
______________________________________________________________________