Mae'r canlynol yn ymddangos yn yr eirfa sydd ar wefan y Gymdeithas, os yw hyn o unrhyw help: finite: the world's resources are f. - mae pen draw i adnoddau'r byd, nid yw adnoddau'r byd yn ddi-ben-draw/ ddiderfyn/ddihysbydd, ni ellir/nid oedd modd adnewyddu adnoddau'r byd, nid yw'n bosibl adnewyddu adnoddau'r byd, nid yw adnewyddu adnoddau'r byd yn bosibl Llinos ________________________________ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 20 November 2008 12:22 To: [log in to unmask] Subject: Re: finite Dwi ddim yn meddwl - dydyn nhw ddim wedi terfynu, naddo? Mae cyfyngedig yn well, er nad yw'n golygu'n union yr un peth. Mae'n awgrymu nad oes llawer o fwynau, ond gall rhywbeth fod yn finite a bod llawer iawn ohono. Rhyw air fel annibendraw sydd ei angen. Ond 'cyfyngedig' ydi'r gorau sydd gennon ni, dwi'n amau. Geraint ----- Original Message ----- From: Rhian Jones <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Thursday, November 20, 2008 10:14 AM Subject: finite Pa air sy'n cael ei ddefnyddio am 'finite' wrth sôn am fwynau, olew, nwy etc.? 'terfynedig'? Diolch Rhian ______________________________________________________________________ This email has been scanned by the MessageLabs Email Security System. ______________________________________________________________________