From:
SUBSCRIBE WELSH-TERMAU-CYMRAEG UnedIaithASB <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Wednesday, 19 November, 2008 4:16:19 PM
Subject: Re: ATB: Gluten free
Prynhawn da bawb,
Trafodaeth ddiddorol!
Yma yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd, rydym ni'n defnyddio 'heb glwten'. Wedi
penderfynu peidio â threiglo 'glwten' gan ei fod yn anghyfarwydd. Gan mai
cyfleu negeseuon a allai achub bywydau (mewn achosion eithafol lle bydd gan
unigolyn alergedd/anoddefiad) fydd yr ASB wrth drafod termau o'r fath - rydym
ni'n awyddus i'r cwsmer ddeall y neges yn anad dim.
Os bydd rhywbeth yn "... free", "heb ..." fyddwn ni'n ei ddefnyddio.
Gobeithio bod hyn yn help!
O ran y ddogfen honno sy'n perthyn i'r
ASB y daethoch ar ei thraws - mae hi'n
hen iawn - wedi bodoli ymhell cyn sefydlu Uned Iaith yr Asiantaeth - allwn ni
ddim gwarantu bod cynnwys ieithyddol dogfennau o'r fath yn ddibynadwy!
Cofion,
Lowri
Lowri Roberts
Pennaeth Uned Iaith Gymraeg / Head of Welsh Language Unit
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd / Food Standards Agency
Llawr 10 / 10th Floor
Tŷ Southgate / Southgate House
Wood Street
Caerdydd / Cardiff CF10 1EW
e-bost:
[log in to unmask]ffôn: 02920 67 8969
ffacs: 02920 67 8919