Diolch Lowri - mae'n ddiddorol gweld sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud. Yr hyn sy'n fy nharo fi'n eitha doniol yw fod yr unig berson dwi'n ei nabod sy'n bwyta'r bwydydd hyn yn defnyddio 'di-lwten' yn gwbl naturiol, heb fod wedi trafod y term o gwbl, ac yn treiglo hefyd! A hi yw'r 'cwsmer' yn yr achos hwn. Ar y llaw arall, dwi'n hollol siwr y bydd hithau'n deall yn union beth yw ystyr 'heb glwten'. Hwyl Catrin ________________________________ From: SUBSCRIBE WELSH-TERMAU-CYMRAEG UnedIaithASB <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, 19 November, 2008 4:16:19 PM Subject: Re: ATB: Gluten free Prynhawn da bawb, Trafodaeth ddiddorol! Yma yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd, rydym ni'n defnyddio 'heb glwten'. Wedi penderfynu peidio â threiglo 'glwten' gan ei fod yn anghyfarwydd. Gan mai cyfleu negeseuon a allai achub bywydau (mewn achosion eithafol lle bydd gan unigolyn alergedd/anoddefiad) fydd yr ASB wrth drafod termau o'r fath - rydym ni'n awyddus i'r cwsmer ddeall y neges yn anad dim. Os bydd rhywbeth yn "... free", "heb ..." fyddwn ni'n ei ddefnyddio. Gobeithio bod hyn yn help! O ran y ddogfen honno sy'n perthyn i'r ASB y daethoch ar ei thraws - mae hi'n hen iawn - wedi bodoli ymhell cyn sefydlu Uned Iaith yr Asiantaeth - allwn ni ddim gwarantu bod cynnwys ieithyddol dogfennau o'r fath yn ddibynadwy! Cofion, Lowri Lowri Roberts Pennaeth Uned Iaith Gymraeg / Head of Welsh Language Unit Yr Asiantaeth Safonau Bwyd / Food Standards Agency Llawr 10 / 10th Floor Tŷ Southgate / Southgate House Wood Street Caerdydd / Cardiff CF10 1EW e-bost: [log in to unmask] ffôn: 02920 67 8969 ffacs: 02920 67 8919