Print

Print




Mae’n fwy twt ond dw i ddim yn meddwl ei fod yn cynnwys yr elfen ‘fwriadol’ sydd yn cael ei awgrymu yn ‘separated’. Fe allai plentyn fod yn y wlad hon heb ei deulu ‘ar wyliau’ er enghraifft ond mae ‘separated’ yn awgrymu i mi nad yw hyn yn brofiad dymunol.

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett
Anfonwyd/Sent: 19 Tachwedd 2008 15:01
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: separated children

 

plant heb eu teuluoedd??

Ann

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Carolyn Iorwerth

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Wednesday, November 19, 2008 2:43 PM

Subject: separated children

 

Ei weld o’n rhyfedd heb ddweud ‘gwahanu oddi wrth bwy’ ydw i – yn y Saesneg hefyd.

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 19 Tachwedd 2008 14:37
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: separated children

 

gwahanedig?

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Carolyn Iorwerth

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Wednesday, November 19, 2008 12:37 PM

Subject: separated children

 

Oes gan rywun gynnig ar gyfer ‘separated children’.

Plant sy’n ceisio lloches/ffoaduriaid yw’r rhain sy’n cyrraedd Prydain heb eu teulu.

Mae Term Cymru’n cynnig ‘plant ar eu pen eu hunain’ (Statws 5)

Mae hyn braidd yn hir mewn brawddeg gymhleth a dw i ddim yn siŵr a yw’n gwbl gywir – mae’n bosib bod y plant wedi dod yma gyda rhywun sydd wedi’u cipio – ‘wedi’u gwahanu oddi wrth eu teulu’ yw’r gorau fedra’i gynnig ar hyn o bryd – ond mae hynny braidd yn hir hefyd.

Byddwn yn gwerthfawrogi cynnig gwell.

Diolch

 

 



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.175 / Virus Database: 270.9.7/1798 - Release Date: 18/11/2008 20:59