Rwy'n cytuno. Yn bersonol, mae'n well gen i 'heb glwten'. Melanie ----- Original Message ----- From: Rhian Huws To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, November 18, 2008 2:38 PM Subject: Re: Gluten free Derbyn y pwynt yn iawn ynghylch y treiglad, ond rhaid i mi gyfadde na faswn i'n gwybod beth fyddai ystyr 'di-lwten' gan nad ydio o wedi ennill ei blwyf o bosibl. Tybed ydi glwten yn ffitio i'r un categori â grwp/gêm/golff ('mynd am gêm o golff' nid 'mynd am êm o olff' )? Dw i'n ofni mod i'n agor tun o lyngyrod rwan... Rhian ------------------------------------------------------------------------------ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of CATRIN ALUN Sent: 18 November 2008 14:31 To: [log in to unmask] Subject: Re: Gluten free Mae gen i ffrind sy'n gorfod bwyta'r bwydydd yma, a di-lwten dwi wedi ei chlywed hi'n ddweud - credu bod di- yn achosi TM. Mae un enghraifft o di-lwten wrth gwglo - hybu cig cymru - a 26 enghraifft o di-glwten - ond mae di-glwten yn swnio'n chwithig i mi (bosib am fy mod yn gyfarwydd â chlywed di-lwten!) Catrin ------------------------------------------------------------------------------ From: Rhian Huws <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, 18 November, 2008 2:09:45 PM Subject: Gluten free Helo bawb Tybed a oes rhywun wedi dod ar draws hwn yn ddiweddar? Gluten Free Foods yw'r cyd-destun: Di-glwten? Heb glwten? Sy'n rhydd o glwten? Nad yw/ydynt yn cynnwys glwten? Diolch yn fawr am bob cymorth. Rhian Rhian Huws Arbenigwr Iaith Gymraeg/Welsh Language Specialist Canolfan Iechyd Cymru/Wales Centre for Health 14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol/14 Cathedral Road Caerdydd/Cardiff CF11 9LJ Llinell Uniongyrchol/Direct Line: 029 2082 7622 Rhif Canolog/Switchboard: 029 2022 7744 E-bost/E-mail: [log in to unmask] Ystyriwch yr amgylchedd cyn argraffu'r e-bost hwn - diolch / Please consider the environment before printing this email - thank you