Mewn llythyr personol at Rhisiart Hincks - neu hyd yn oed Geraint Lovgreen os bydd e'n dal gyda ni - byddai "17 flynedd" yn hollol dderbyniol ond mewn papur newydd neu daflen - rhywbeth y mae rhywun yn ei ddarllen unwaith ar frys - byddai "17 flynedd" yn arafu llif y darllen yn ddiangen. Pwynt arall cysylltiedig: Fydda i byth yn siwr beth i'w roi o flaen rhifau fel "17" - "a" 'ta "ac": "tair buwch a 17 o hychod" 'ta "tair buwch ac 17 hwch/o hychod". Fyswn i ddim yn sgrifennu "tair buwch a 17 hwch" gan ddisgwyl i bobl ddarllen "tair buwch a dwy hwch ar bymtheg". Mater o nabod y gynulleidfa eto, mae'n debyg. Siân On 14 Nov 2008, at 13:03, Geraint Lovgreen wrote: > Achos bod y rhan fwyaf o Gymry Cymraeg wrth weld 17 yn meddwl 'un > deg saith' ac nid 'dwy ar bymtheg'. > > Os yw hynny'n ansafonol, wel saethwch fi! > > Geraint > ----- Original Message ----- > From: Janet Aethwy > To: [log in to unmask] > Sent: Friday, November 14, 2008 9:42 AM > Subject: Re: 17 years - 17 flynedd? > > Cytuno i'r carn Rhisiart > > Janet > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of > Rhisiart Hincks > Sent: 13 November 2008 18:16 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: 17 years - 17 flynedd? > > 17 flynedd = dwy flynedd ar bymtheg > > Ni welaf sut y gall fod yn ddim arall mewn iaith safonol > > Rhisiart > ----- Original Message ----- > From: Rhian Jones > To: [log in to unmask] > Sent: Thursday, November 13, 2008 8:26 AM > Subject: 17 years - 17 flynedd? > > Ydi 17 flynedd yn iawn? Y cymal sy gen i ydy: > 'unemployment is rising at its fastest rate for 17 years' - 'mae > diweithdra’n cynyddu ar gyfradd gynt nag a welwyd mewn 17 flynedd' > Diolch > Rhian > Tinopolis PLC > Tinopolis Centre, Park Street, Llanelli SA15 3YE > UK Company Reg. 03832383 > ___________________________________________________ > This email and any files attached are strictly confidential and > intended solely for the person or entity to whom they are > addressed. They may contain legally privileged and/or confidential > information. If you are not the intended recipient you must not > copy, distribute or take any action in reliance on them. If you > have received this email in error, please notify us as soon as > possible and delete it. The views and opinions expressed in this > email message and any attachments are the author's own and they do > not reflect necessarily the views and opinions of Tinopolis. > Mae'r ebost hwn ac unrhyw ffeiliau sydd ynghlwm yn gyfrinachol ac > at ddefnydd y person neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. > Gallant gynnwys gwybodaeth sy'n freintiedig yn gyfreithiol a/neu'n > gyfrinachol ac os nad chi yw'r sawl y cyfeiriwyd y neges ato, yna > peidiwch a chopio, dosbarthu na chymryd unrhyw gamau o ganlyniad a > gan ddibynnu arni. Os ydych wedi derbyn yr ebost hwn drwy > gamgymeriad, dylech ein hysbysu o hyn cyn gynted a phosib a'i dileu > os gwelwch yn dda. Barn neu safbwyntiau'r awdur yw'r rhai a > fynegir yn y neges ebost hon ac unrhyw atodiadau ac nid ydynt yn > adlewyrchu o anghenraid barn neu safbwyntiau Tinopolis. > ___________________________________________________ > >