Dwi’n cyfieithu dogfen am amddiffyn plant sy’n sôn droeon am “children and young people with additional vulnerability”. Ceir sôn am y grŵp hwn mewn brawddegau sydd eisoes yn hir, ac felly byddai rhywbeth gweddol gryno am “with additional vulnerability” o gymorth mawr. Hyd y gwela i ar y we, gall yr “additional vulnerability” gynnwys “..race, gender, age, religion or disability, sexual orientation, social background and culture” (Standards for Safeguarding and Protecting Children in Sport). Diolch am unrhyw gynigion. Claire