Ddrwg gen i am yr oedi; 'dyw'r arbenigwr sy'n gwybod ynghylch hyn ddim ar gael, a neb arall yn barod i fentro, felly gwell ichi sticio at "tagell pinc [lliw] lelog/leilac" fel 'dych chi'n debyg o fod wedi gwneud eisoes erbyn hyn. Mae'n ddrwg gen i am hyn. Ann ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Thursday, October 23, 2008 6:34 PM Subject: Re: Ffyngau Rhaid y bu 'na ryw drafferthion technegol. 'Roedd Duncan wedi gwneud ymholiadau gyda nifer o arbenigwyr eraill ac anfon ei ateb y bore 'ma, ond finnau heb ei gael. Dyma'r atebion OND yr un olaf: pink waxcap = Hygrocybe calyptriformis - cap cwyr pinc yellow foot waxcap = Hygrocybe flavescens - cap cwyr bo^n melyn earthy waxcap = Hygrocybe fornicata - cap cwyr cennog glutinous waxcap = Hygrocybe glutinipes - cap cwyr gludiog oily waxcap = Hygrocybe quieta - cap cwyr oeliog (Dywedir wrthym mai at oglau'r ffwng y mae'r "oily" yn cyfeirio, nid at ei ansawdd) slender waxcap = Hygrocybe radiata - cap cwyr main splendid waxcap = Hygrocybe splendidissima - cap cwyr ysblennydd golden spindles = Clavulinopsis fusiformis ... 'gwerthyd euraid'? - Pam lai?, medde Bruce. lilac pinkgill = Entoloma porphyrophaeum - Gwell gan Bruce beidio a defnyddio'r enw "lelog" fel ansoddair os nad oes rhaid, ond mae ansicrwydd ynghylch sut orau i ddisgrifio'r lliw. Os gallwch gwblhau'r gweddill rwan, dof yn ol atoch cyn gynted ag y bydd Duncan wedi ymateb eto. Ann ----- Original Message ----- From: Claire Richards To: [log in to unmask] Sent: Thursday, October 23, 2008 2:28 PM Subject: Re: Ffyngau Annwyl Ann Mae'n rhaid i'r gwaith fynd yn ôl ddydd Llun, felly dyma fi'n meiddio gofyn a oes unrhyw newydd am y ffyngau, os gwelwch yn dda? Cofion gorau. Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 21 October 2008 23:43 To: [log in to unmask] Subject: Re: Ffyngau Annwyl Claire, Mae Bruce wedi bod yn gweitho ar awgrymiadau heno, ond wedi anfon y rhestr at Duncan Brown am se^l ei fendith cyn ei hanfon at W-T-C. Rhowch wybod os oes brys mawr. Cofion, Ann ----- Original Message ----- From: Claire Richards To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, October 21, 2008 4:48 PM Subject: Ffyngau Dwi wrthi gyda'r ffyngau eto. pink waxcap = Hygrocybe calyptriformis yellow foot waxcap = Hygrocybe flavescens earthy waxcap = Hygrocybe fornicata glutinous waxcap = Hygrocybe glutinipes oily waxcap = Hygrocybe quieta slender waxcap = Hygrocybe radiata splendid waxcap = Hygrocybe splendidissima Dwi'n gwybod mai 'cap cwyr' yw 'waxcap' - dyna sydd yng Ngeiriadur yr Academi. golden spindles = Clavulinopsis fusiformis Dwi'n gwybod mai 'gwerthyd fyglyd' yw 'smoky spindle', oherwydd i mi holi am ffyngau beth amser yn ôl. Felly 'gwerthyd euraid'? lilac pinkgill = Entoloma porphyrophaeum Dwi'n gwybod mai 'tagell binc fawr las' yw 'big blue pinkgill'. Felly 'tagell binc lelog'? Diolch am unrhyw gymorth. Claire -------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG - http://www.avg.com Version: 8.0.173 / Virus Database: 270.8.2/1737 - Release Date: 21/10/2008 09:10 ---------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG - http://www.avg.com Version: 8.0.175 / Virus Database: 270.8.2/1741 - Release Date: 23/10/2008 07:54 ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG - http://www.avg.com Version: 8.0.175 / Virus Database: 270.8.2/1741 - Release Date: 23/10/2008 07:54