Print

Print


Mae'r ffôn yn canu hefyd

Ac mae beirdd yn canu

 

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 15 October 2008 14:57
To: [log in to unmask]
Subject: Re: play an instrument

 

Pan oeddwn i'n dysgu Cymraeg yn y lle cyntaf cofiaf glywed (gan Dan Lynn

James? Alun Jones?) mai "canu" oedd y gair ar gyfer y delyn, a chwarae am y

offerynau eraill.  'Dw i ddim yn cofio a soniwyd am y berdoneg y naill

ffordd na'r llall, ond mae "canu'r piano" yn swnio'n gyfarwydd iawn i mi, a

"canu" yn unig sydd yn GyrA dan "piano".

 

O ran "canu corn", "canu cloch" a ddefnyddir o hyd hefyd.  "Canu" sy'n gywir

ar gyfer unrhyw offeren, meddai Bruce, ond "'dyw o ddim o dragwyddol bwys"

ar wahan i "telyn/piano/corn/cloch" - a ydym wedi hepgor unrhyw beth?

 

Gyda llaw, fel dysgwr, ni wn i ba mor gyfarwydd yw'r rhigwm hyfryd hwn:

 

Mae cath fach Jons y Felin

Yn cael gwersi ar y delyn;

Gwyr yn awr y ffordd i redeg

Hyd ber dannau y berdoneg.

 

Ann

 

----- Original Message -----

From: "john.puw" <[log in to unmask]>

To: <[log in to unmask]>

Sent: Friday, October 10, 2008 5:14 PM

Subject: Re: play an instrument

 

 

>Y peth od ydi, canu corn y car fyddwn i, ond chwarae pob offeryn chwyth (a

>phob offeryn arall hefyd).

> Sent using BlackBerry® from Orange

> 

> -----Original Message-----

> From:         Eluned Mai <[log in to unmask]>

> 

> Date:         Fri, 10 Oct 2008 17:00:57

> To: <[log in to unmask]>

> Subject: Re: play an instrument

> 

> 

> Mi faswn i'n canu pob offeryn - piano, telyn, ffliwt, clarinet a hyn

> yn oed y drwm - taswn i ond yn gallu!  Am fy mod wedi dysgu mai hynny

> sy'n iawn, am wn i, ac mae'n gwneud synnwyr hefyd.  Dwi yn dweud

> 'chwarae piano' weithiau ond 'canu' sy'n teimlo'n iawn - gan mai

> 'canu' dwi'n arfer ei ddefnyddio, hwnnw sy'n teimlo'n naturiol.  A

> dwi'n siwr ein bod i gyd yn 'canu corn' - dwi'n medru gwneud hynny,

> h.y. pan fydd yr un ar fy nghar bach i yn gweithio!

> 

> Pob hwyl

> 

> Eluned

> 

> On Fri, Oct 10, 2008 at 2:12 PM, Osian Rhys <[log in to unmask]> wrote:

>> Ond canu'r delyn onidêê? Dw i'n meddwl mai chware popeth arall fyswn i,

>> ond

>> canu'r delyn -- i fi mae "chwarae'r delyn" yn swnio'n od braidd...

>> 

>> 

>>> Ie, Geraint, dyna'n union roeddwn i'n feddwl.

>>> Mae bron pawb dw i wedi'i holi'n dweud "chwarae dwi'n ddweud ond canu

>>> sy'n

>>> iawn". Pwy sy'n dweud mai "canu sy'n iawn" dw i ishe gwbod - yn enwedig

>>> os

>>> ydi chwarae'n cael sêl bendith yr Esgob William Morgan a Bruce

>>> Griffiths!

>>> Dw i ddim yn dadlau nad ydi canu'n iawn, gyda llaw.

>>> 

>>> Diolch bawb!

>>> 

>>> Siân

>>> On 10 Oct 2008, at 09:29, Geraint Lovgreen wrote:

>>> 

>>>> Chwarae offeryn fyswn i, er i athrawes yn yr ysgol ddweud mai 'canu'

>>>> oedd

>>>> yn iawn. Ond wedyn, weithiau bydd athrawon ysgol gynradd yn cael

>>>> chwilen yn

>>>> eu pennau am rywbeth - mae na bobl ffordd hyn sy'n ynganu'r gair "byth"

>>>> efo

>>>> y hir (fel "syth") am fod rhyw athro/athrawes wedi pwyso arnyn nhw

>>>> "peidiwch

>>>> b^yth â dweud byth".

>>>> 

>>>> Geraint

>>>> 

>>>> An tUalghargach - esgob, dydi'r Wyddeleg yn iaith gymhleth!!!

>>>> 

>>>> ----- Original Message ----- From: "Muiris Mag Ualghairg"

>>>> <[log in to unmask]>

>>>> To: <[log in to unmask]>

>>>> Sent: Friday, October 10, 2008 12:57 AM

>>>> Subject: Re: play an instrument

>>>> 

>>>> 

>>>> Dw i ddim yn mynd i ddadlau o blaid 'canu gitar' neu yn ei erbyn -

>>>> rwy'n cofio'r drafodaeth flaenorol ar y pwnc ac yn derbyn bod

>>>> 'chwarae' yn digwydd yn y Gymraeg ers cymaint o amser nad oes modd

>>>> dadlau yn ei erbyn bellach - ond tybed a fydd Ffion (merch ffrind i

>>>> Huw a finnau) yn chwarae'r delyn ar ei chwrs ym Mangor ynteu'n canu'r

>>>> delyn?

>>>> 

>>>> Ond wedi dweud hynny dyma, o leiaf un, enghraifft o ganu'r gitar

>>>> 

>>>> "Fe gafodd Danny ei eni mewn fflat cyngor yng Nhaerdydd ar ôl parti ar

>>>> hyd y nos gyda'r Ballet Rambert. Roedd ei berfformiad gyhoeddus cyntaf

>>>> yng nghlwb werin Cardiff Royal Infirmary yn 1970, yn canu gitar gyda'i

>>>> rieni. I'r anoracs ymysg y darlledwyr, mae fe'n canu y cymysgedd

>>>> arferol o offerynnau tant, gyda ffrets ac hebddynt, ac yn defnyddio'r

>>>> dull chwyldroadol 'Bowyer's' ar allweddellau a ffidil. Mae Danny yn

>>>> perfformio mewn amryw grwpiau eraill yn cynnwys Kilbride (gyda'i

>>>> frodyr Gerard a Bernard), Yr Hwntws a Juice."

>>>> http://www.carreglafar.co.uk/features/musicians/DannyCym.htm

>>>> 

>>>> Ond, mae'n ddigon posibl mai cyfieithiad yw'r dyfyniad uchod ac

>>>> efallai nad oes modd dibynnu arno fel enghraifft o Gymraeg naturiol.

>>>> 

>>>> Muiris,

>>>> (sy'n gwrando ar Rhian yn canu emynau allan o 'Caneuon Ffydd', a chyda

>>>> llaw An tUalghargach yw'r ffurf gywir os yw rhywun eisiau cyfeirio

>>>> ataf gan ddefnyddio'r cyfenw!)

>>>> 

>>>> 

>>>> 2008/10/9 Huw Garan <[log in to unmask]>:

>>>>> 

>>>>> 'Canu piano' ddysgais i wrth dyfu lan, ond alla i ddim meddwl am rwyun

>>>>> yn

>>>>> canu gitar drydan neu ddrymie nac yn chwarae piano neu ffidil.  Falle

>>>>> taw fi

>>>>> sy'n rhyfedd - paid ateb, Mag Ualghairg.

>>>>> 

>>>>> Hg

>>>>> 

>>>>> 2008/10/9 Sian Roberts <[log in to unmask]>

>>>>>> 

>>>>>> Mae tuedd i feddwl mai "canu offeryn" - yn enwedig y piano a'r

>>>>>> delyn -

>>>>>> sy'n gywir yn y

>>>>>> Gymraeg er mai "chwarae" y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddweud yn

>>>>>> naturiol. A oes sail

>>>>>> dros hyn?

>>>>>> Yn ôl GPC, mae'r ddau ymadrodd yn digwydd ym Meibl 1588, ac yn GyrA o

>>>>>> dan

>>>>>> "play (an

>>>>>> instrument) ceir "chwarae, seinio, occ. canu".

>>>>>> Ai dim ond meddwl mai "canu" sy'n iawn am ei fod yn wahanol i'r

>>>>>> Saesneg

>>>>>> y

>>>>>> mae pobl?

>>>>>> 

>>>>>> Diolch

>>>>>> Siân

>>>>> 

>>>>> 

>> 

>> 

> 

 

 

--------------------------------------------------------------------------------

 

 

 

No virus found in this incoming message.

Checked by AVG - http://www.avg.com

Version: 8.0.173 / Virus Database: 270.8.0/1725 - Release Date: 14/10/2008

21:25